Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y ËtD. Cyf I. Rhif I I0NAWR 1891. Pris Dwt Geiniog ANERCBIAD. Anwyl Gydgenedl yn Nghymru, ac ar wasgar dros y byd. Anerch,— Yr oedd cynllun ar droed, a darpariiethau wedi eu gwneud gan JMr. E Rees a'i Feibion, Argraffwyr, Ystalyfera, a rainau i ddwyn allan fisoltn rhyddl'rydig dan yr enw "cwrs t byd," fel math o adolygiad cyffredinol ar symudiadau yr oe=, yn gymdeithasol, gwladol, a chrefyddol; ond pan oeddym yn barod at waith, deallasom fod Golygwyr y Cronicl yn dymuno ymiyddhau o'r olygiaeth, a chan eu bod hwy, a'u cyfeillion, a holl gyfeülion y Cronicl a minau, wedi arfer byw 3rn yr un awyrgylch, a brwydro dan yr un faner, barnasom nad ellid gwneud dim yn well nag uno y " Cronicl," a " Cwrs y Byd " a'u gilydd. a'i gyhoeddi yn Ystalyfera. Wele y Misolyn unedig. Mae ychydig yn wahanoì ei olwg, ac yn fwy ei blyg na'r Cronicl, ond ni chaiff dim ymddangos ynddo fyddo yn groes i'r egwyddorion mao y Cronicl wedi arfer bleidio, na dim, hyd y gellir. ond a fyddo da i adeiladu yn fuddiol. Mewn Gwleidyddiaeth, bydd yn Rhyddfrydio, ond yn Anibynol; ni chymer ei arwain gan bersonau, eithr gan egwyddorion. Gwna ei oreu i gyfarwyddo yn newisiad aelodau seneddol, a chyhoedda ei farn yn rhydd am eu gweithrediadau. Byddid gynt yn dewis aelodau seneddol, braidd bob amser. ar gyfrif eu hamgylchiadau bydol a'u cysylltiadau teuluaidd yn fwy nag ar gyfrif eu cymhwysderau personol. eu hegwyddorion. a'u deall, a gwneir hyny eto i raddau gormodol, yn unig fod y rhesymau wedi newid yn eu ffurf, ond nid yn eu hyspryd. Gynt yr oedd bo 1 y landlord mwyaf yn yr etholaeth, neu fod yn ffafr y landlord mwyaf, yn ddigon i agor drws y Senedd i unrhyw greadur deudroed. Byddai y " gwyr rnawr" hyn yn addaw rhyw ffafrau i bersonau cegol yn yr etholaethau, a byddai y rhai hyny yn cyflogi holl dafodau yrardal, yr auen, a'r wasg, i'w moli gan eu gweddnewid i'r fath raddau nes gwneud i'r anwybodusion gredu mai engyl ymgnawdoledig fyddai yr ymgeiswyr, tra y byddai pob dyn o synwyr fyddai yn gydnabyddus a'r peirianwaith etholiadol yn teimlo y buasai dwy lath o gortyn yn eu gweddu lawer yn well na lle yn y Senedd. Y ffordd i'r Senedd yn awr yw bod o'r un gredo prefyddol (?) a'r enwad lluosocaf yn yr etholaeth. (yrun egwyddor a bod yn ffafryn y lnndlord mwyaf,) ac os bydd yn " perthyn i'n henwad ni," i fewn ag ef heb ofyn dim er mwyn cydwybod. Ni fynwn er dim araen cymhwysderau yr aelodau pre.^enoì tray parhaont i wneudeu goreu, a byddwn yn foddlon cymeryd yn ganiataol nad ellid cael eu g-vell, ond byddwn bob amser yn barod i draethu ein baru yn onest am eu hymddygi idau fel dynion cyhoeddus, y tu allan yn gystal a thu fewn i'r Senedd. Pryd bynag y gwelwn rai o honynt yn bradychu yr egwyddorion o dan faner y rhai yr aethant i'r Senedd, cymerwn ein rhyddid i'w cyhuddo a'u hargyhoeddi. Wedi i far-gyfreithiwr fyned i'r Senedd drwy bleidleisiau gwrth-ddegymwyr, nis gallwn oddef iddo fyned i'r llys gwladol i erlyn amaethwr am beidio talu degwm ; neu wedi i un fyned i'r Senedd yn rhinwedd pleidleisiau gwrth-ddiotwyr, nis gallwn oddef i hwnw ymgymeryd ag amddiffyn y fasnach feddwol mewn un ffordd yn y byd, heb ei gondemnio, ac anog pob gwrth ddegymwr a gwrth-ddiotwr i beidio pleidleisio dros y cyfryw yn yr etholiad nesaf. Pob rhyddid i'r naill a'r llaH i amddiffyn y peth a fynont, ond i ni gael deall ein gilydd cyn