Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RYTHONES. Cyf. I. AWST, 1879. Rhif. 8. H-uJeẁ. " Dyn a anwyi i fiinder fel yr eheday wreichionen ifynu." |YN-YMHERODRES Ffraingc a fydd gwrthrych ein sylwadau y tro hwn ; darhin o honi yn ei dyddiau boreu- ach yw yr un yr ydym yn ei gyflwyno i'n darllenwyr, £Hd ydyw hi eto o blith y meirw, ac nid ydym 501 hysbys o unrhyw ragoriaeth arbenig yn ei chymeriad y byddai yn dda ei wneuthur yn esiampl. Yr ydym wedi bwriadu son am dani fel un y sydd wedi bod drwy yr ẁythnosau diweddaf, yn nghwrs gweinyddiad Rhagluniaeth Ddwyfol tuag ati, yn un ò brif destunau siarad pawb, bonedd a gwreng, drwy holl wledydd Ewrop; ac er talu ein gwarogaeth, y goreu a fedrwn drwy y cyfrwng hwn, i'r ewyllys da, y serchawgrwydd, a'r cydymdeimlad rhagorol a hollol, y medr y galon ddynol ei fforddio a'i weini mewn amgylchiadau o gyfyngder a chyni. Y " byd drwg presenol" y gelwir yr un yr ydym ^rnbyw ynddo, mae yn wir, ond yr ydym yn awr a phryd arall yn cael achos i'w ganmol, y mae yn cynyrchu llawer balm adfywiol ar gyfer calonau clw)rfedig, ac yn bwrw allan ddyfroedd odiaeth eu rhin ar gyfer y sychedig a'r cystuddiol. Yn nglyn â marwolaeth ddisymwth a galarus ei hunig fab, y Tywysog Ymherodrol, fel ei gelwid, y bwriadem ddwyn yr Ymher- odres Eugenie gerbron. Prin y rhaid i ni adgofio neb mai gweddw Napoleon Bonaparte, cyn-ymherawdwr Ffrainc, ydyw gwrthrych ein hysgrif. Cymerwn yn ganiataol fod y rhyfel enbyd rhwng Ffrainc a Prwssia naw mlyn- edd yn ol, a dymchweliad teulu ymherodrol Ffrainc, yn nghyd a darostyngiad y wlad, yn fyw yn nghof ein darllenwyr. Brwydr fyth- / ■ ;