Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RYTHONES. Cyf. I. CHWEFROR, 1879. Rhif. 2. 1 Dl^yâogep ÿice, |EIML\VN yn fraint gael taflu ein hatling i drysorfa gyfoethog y Coffa am y ddiweddar Dywysoges Alice, yr hon er "wedi marw y sydd yn llefaru eto," ac ystyr ei bywyd a'i marwolaeth yn perarogli yn hyfryd drwy holl wledydd y ddaear. Nid oes yn ddiau nemawr un o'n darllenwyr nad yw wedi clywed llawer o sôn am dani yn ystod y ddau fis diweddaf: ei bywyd pur, a 1 marwolaeth gynar a disymwth ; ac ni fynem ninau esgculuso y cyfleusdra i gyfarch darllenwyr y Frythones ar ei rhan, yn gyntaf â darlun o honi (pa mor gywir nid ydym yn sicr), ac yna â nifer o ffeithiau dyddorol ac addysgiadol cysylltiedig â'i hanes. Merch ydoedd y Dywysoges Alice, neu fel ei gelwid yn awr, yr Uchel Dduces o Hesse, i'n grasusaf Frenines Victoria, ei hail ferch ; ganwyd hi yn Mhalas Buckingham ar y 25ain o Ebrill, 1843, a bedyddiwyd ar y 2Óain o Fehefin yn yr un flwyddyn. Pan yn bedair ar bymtheg oed, priododd â'r Tywysog Louis o Hesse; yn awr cr's yn agos i ddwy flynedd wedi ei raddio äc yn cael ei alw yn Uchel Dduc o Hesse; a bu farw yn fam i saith o blant, pump merch a dau fab, Rhagfyr y i4eg, 1878, ar yr un diwrnod, ddwy flynedd ar bymtheg yn ol, ag y bu farw ei hanwyl dad, y Tywycog Cydweddog. Nid oes, ar a wyddom ni, lawer i'w ddywedyd am ei blynyddoedd boreuaf, heblaw fod iddi bob amser er yn blentyn enw uchel am ei thegwch personol, a'i thynerwch meddwl. Sonid am dani yn aml fel un