Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

$ Irythones. Cyf. I. IONAWR, 1879. Rhif. i. JNWYL CHWIORYDD,—Wele ni yn ymddangos ger eich bron drwy gyfrwng newydd Y Frythones. Na thybiwch ni yn ymhongar nac yn eofn; na thybiwch ni yn anymwybodol neu yn ddiystyr o'r cyfrifoldeb yr ydym wedi ymgymeryd ag ef: nid ydym y naill na'r llall. Yr ydym wedi petruso llawer, ac o hyd yn bryderus, ac eto ar ddechreu y flwyddyn 1879, Yn ymddangos yn eich plith, ac yn gwahodd eich sylw yn y fFurf newydd ac anturiaethus hon. Y mae llawer yn cydnabod ein bod yn ymddangos mewn bwlch ar y mur a fu drwy y blynyddoedd yn cael ei esgeuluso. Er. dyddiau y llafurus a'r anfarwol Ieuan Gwynedd, ni fu gan lenyddiaeth Gym- reig yr un Cyhoeddiad i Ferched a Gwragedd, ac nid oedd fawr o argoel fod neb yn sylwi na neb yn symud, fel o'r diwedd, wedi ein cymhell gan y Cyhoeddwyr a chan y wlad, tueddwyd ni i wneuthur prawf ar ein gallu ein hunain i wneuthur y diffyg i fyny. Pa mor gymeradwy gan ferched a gwragedd y wlad fydd hyny, pa gymhwysderau a gallu a feddwn i gyflawnu y gwaith, a pha lwydd- iant a gorona ein hymdrech, nid ydym yn gwybod yn sicr; amser a ddengys hyny fel pobpeth arall. Nid ydym yn gwneuthur ymíFrost o ddim; nid ydym yn canmol em hunain, nac yn "bwrw ddarfod i ni gael gafael ond un pcth" y