Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FRYTHONES. EBRILL, 1881. MAE yn gorphwys arnom y waith hon ddyledswydd anarferol o anhawdd i'w chyflawnu ; y mae ei hystyr yn goiygu i ni y gyfryw golled yn y naill ífordd a'r llall, fel mai yn brin y gwelwn ein ffordd oddiyma yn mlaen drwy y tywyllwch a daena ar ein llwybr. Y mae genym i hysbysu ein lluaws darllenwyr fod y neb a gynrychiolir gan y darlun o flaen ein hysgrif, ein diweddar gyfaill a noddwr, Mr. Robert 01iver Rees, Dolgellau, wedi rhoddi ei ysgrifell heibio, a gorphwys oddiwrth ei lafur, er dydd Sadwrn, Chwefror y i2fed, o'r íiwyddyn hon. Iddo ef credwn fod hyny yn enill mawr—yn golygu " gwlad well," a " gwynfyd mewn corfF ac ysbryd yn y ddidranc a'r dragywyddol Cyf. nr. Rhif. 4