Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FRYTHONES. Mehefin, 1890. PWYSIGRWYDD DEDDFAU IECHYD. R oedd yn llawen iawn genym ddarllen yr ysgrif yn y Frythones am fis Ebrill, ar " Ymarferiad yn yr awyr agored i enethod." Y mae arnom eisieu llawerychwaneg o'n dysgu yn y cyfeiriad hwn. Credwn nad ydyw deddfau iechyd yn cael agos ddigon o sylw yn ein cyhoeddiadau misol, mwy nag yn ysgolion ac aelwydydd ein gwlad. Byddwn yn synu yn ddirfawr, pan yn ystyried y cysylltiad rhyfedd ac agos sydd rhwng y corff a'r meddwl, a'r gailu diderfyn braidd sydd gan y naill i ddylan- wadu ar y llall, fod dynion ar hyd yr oesau wedi gallu bod mor hurt ac mor ddiofal gyda golwg ar ddeddfau iechyd. Yr oedd y deddfau hyn yn bod ar hyd yr amser, ac, fel pob deddf arall, yn cospi eu troseddwyr; ond er hyny ni wneid ond ychydig sylw o honynt. Gobeithiwn a hyderwn yn gryf y daw y byd eto i'w iawn bwyll o berthynas i'r mater hwn. Dyfod yn nes i'w le y mae bob dydd, ac y mae ein ffydd yn gadarn mai parhau i symud yn mlaen fydd ei hanes; ond cyn yr â yn mhell mewn rhagoriaeth, bydd yn rhaid i rai o'r pethau fuont olaf ddyfod yn mlaenaf, ac yn eu plith aíiechyd corfforol. Dilys genym, hefyd, y daw hyn oll oddiamgylch. Nid oes neb ag sydd wedi talu sylw i'w brofiad ei hun, nad ydyw yn gwybod fel y mae y corff a'r meddwl yn canlyn eu gilydd yn wastadol, ac yn effeithio cymaint y naill ar y llall nes y bydd weithiau yn anhawdd penderfynu wrth ddrws pa un y gorwedd y cyfrifoldeb. Ond yn Wir yr ydym yn cwbl gredu sylw Dr. Channing, nad oes genym yr un syniad pa mor bell y mae y moesol yn effeithio ar y naturicl a'r corfforol. Pe buasai holl genedlaethau y byd wedi arwain bywyd pur a rhinweddol, y mae yn ddiddadl y buasai llawer llai o ddyoddefiadau corfforol, o iselder ysbryd ac anmhwylledd, ac o farwolaetbau anamseroì. Nid oes genym yr amheuaeth leiaf o hyn. Ymddengys i ni mai nid o'i benarglwyddiaeth yr oedd y Duw mawr yn cyhoeddi amlhad o boenau y ddynoliaeth mewn canlyniad i'w chwymp, ond mai ffrwyth naturiol pechod ydyw dyoddefaint. Y fynyd y mae y dyn yn rnyned yn gaethwas i'w flysiau a'i nwydau, y mae yn gosod ei hun yn agored i fyrdd o boenau corfforol a meddyl- iol. Meddylier, drachefn, am y blysiau a'r nwydau aflywodraethus hyn yn cael eu trosglwyddo o'r naill genedlaeth i'r Jlall, yn nghyd a'r holl ddirywiad corfforol a meddyliol a achoswyd ganddynt, ac y mae y syniad yn ddifrifol i'r eithaf. O ie, drwg moesol^ydyw gwreiddyn y drygau ereill, ac nid ydyw y pechod gwreiddiol y**sonir am dano ond yr hyn y mae y ddynoliaefh ei hun yn gyfrifol am dano. Yn wir, Cyf. XIII. Rhif. 6.