242. ffX*fftSfOJt- fPARHAD.]— II. |YRCHAFIAD MOESOL.—Beth bynag yw ein syniadau am ein cymeriadau moesol, a pha mor berffaith bynag yr ystyriwn hwynt, y mae y ffaith yn aros fod genym le dirfawr i wella a chynyddu, ac nad ydyw ein hoes ond ber at y gwaith enfawr hwn. Un ran o foesoldeb ydyw y cyflawniad o'n dyledswyddau tuag atom ein hunain—gwneyd a allom i ddyrchafu ein natur trwy feithrin ei thueddiadau da, a darostwng ei rhai drwg. Y mae purdeb meddyliau a geiriau. uniondeb gweithredoedd, didwylledd amcanion, eangder caion, mawrfrydig- rwydd ysbryd, a llawer o'r cyffelyb ragoriaethau yn gynwysedig mewn gwir foesoldeb. Ond i ni astudio ein hunain, gwelwn ein bod yn naturiol yn ddiffygiol yn yr holl rinweddau hyn, ac yn gwbl amddifad o rai o honynt. Ni thal i ni ragori mewn un rhinwedd, ond dylem feddu cymeriadau cymhesur ; nid bod yn garedig heb fod yn onest; yn eirwir, heb fod yn dyner ; yn wrol, heb fod yn wylaidd ; nac yn ofalus am ein gweithredoedd, ac yn anmhur a garw ein hymadroddion. Y mae genym i ddiwreiddio ein holl arferion niweidiol, hefyd; y rhai nad ydynt yn perthyn i'r dosbarth eithafol wrthun a ystyrir yn anfoesol—y mân feiau hyny a rwystrant ein cynydd mewn rhinwedd, ac ond odid, a leihant ein dylanwad, ac felly a ataliant ein defnyddioldeb. Y mae genym oll rai o'r llwynogod bychain hyn yn difwyno ein gwinllanoedd. Ond os mai bychain ydynt, y maent yn effeithiol iawn i ddinystrio tegwch ein cymeriadau, ac y maent yn hynod o fedrus i'n hosgoi pan y byddwn mewn ymdrech yn ceisio eu dal. Anweddus iawn mewn merch ieuanc ydyw iaith arw ac isel, ac nid oes ganddi hi ei hunan syniad fel y mae ei geiriau yn ei hanurddo. Diffyg pwysig mewn cymeriadj. hefyd, ydyw yr anallu hwnw i wrthwynebu temtasiwn pan yn gweled ereill yn ymollwng i fyned gyda hi. Ni ddylem fod yn ddigon gwan ein cymeriadau i wenu a ffugio cymeradwyaeth, pan y gwneir neu y dywedir rhywbeth ag y mae ein syniad moesol yn gwrthryfela yn ei crbyn, ác na fynem er pobpeth fod yn euog o honynt eîn*liunain. Tiriondeb sydd brydferth ragórol; ond nerth, hefyd, sydd anlíèbgorol er dyogelu prydferthion y cymeriad. Gwyleidd-dra sydd addurn ysblenydd ar ferch, ond wna hi mo'r tro heb wroldeb. O'r ochr arall, cymeriad atgas ^dyw y ddynes hono sydd yn wastadol am ddysgu ereül, ac yn ystyried yn ddyledswydd arni roddi i'ẁ chyfeillesau restr o'u beiau. Beth pe meiddiem ddweyd ein barn am ei chymeriad hi ?