Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

jglfasssstfr, " LLWYDDED Y EHAI A'TH HOFFANT." ------«_----- ¥ tŵau Börpcf). Y mae dau ddrych, trwy ba rai yn bennaf yr ydym yn der- byn gwybodaeth am Dduw ac am bethau ysprydol, sef drych anian, a diych y gair;—y ddau o waith yr un Creawdydd Dwyfol, a'r ddau, cyn belled ag y maent yn myned, yn dat- guddio'r un gwirioneddau, ond bod y naill yn eu datguddio yn eglurach, ac yn datguddio mwy na'r llall. At ddrych anian y cyfeiria'r Apostol yn Ehuf. i. 20, pan ddywaid, " Ei anweledig bethau Ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyr- ied yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg; sef ei dragy- wyddol allu Ef a'i Dduwdod." Y drych hwn oedd gan y Cenhedloedd, i'r rhai ni roddwyd Datguddiad arall, " hyd onid ydynt yn ddi-esgus " am eu pechod. Er nad yw hwn mor glir a drych y gair, y mae yn un hardd iawn; ac er bod gennym ni y drych egluraf hefyd, etto da fyddai i ni wneud gweithredoedd anian yn ddrych, trwy ba un i ganfod peth- au anweledig Duw. Os cyfodwn ein golwg at y goleuadau disglair ac aneirif sy'n tywynnu yn ehangder y ffurfafen, y nefoedd a ddatgana i ni ogoniant Duw, a'r ffurfafen a fynega waith Ei ddwylaw ef. Mae pob seren yn ddrych, trwy'r hwn y gallwn ganfod gallu a doethineb Dwyfol yr Hwn a'i cre- °dd. Os disgynwn drachefh i'r ddaear, a tliaflu ein golwg dros y byd lle'r ŷm yn byw, yma hefyd canfyddwn ol ei dda-