Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

►f GgIÌ»gt08fefr " LLWYDDED Y BHAI A'TH HOITAIÎT." ÌSttỳ gfo <£rísttanogríDgìŵ ? (Parhad o tu dalen 308.; PENNOD II. PRIODOLION CRISTIANOGRWYDD. Os golygwyn ynte y ddadl, o'r man yr ŷm eisioes wedi ei gyrraedd, gellir gofyn ai ydym etto yn gwybod llawer mwy nag ar y dechreu o'r hyn ydyw Cristianogrwydd: canys yn ol yr hyn a ddywedwyd, ymddengys fod yr Hindw, a orwedd odd ar wely o gethri, yn llawer mwy o dan ddylanwad cref yddol, nag yw'r rhan fwyaf o'r Cristianogion hynny, o ddi- dwylldra pa rai yr ŷm ni yn alluog i farnu, trwy sylwi ar ddull arferol eu bywyd. Diammeu ei fod ef yn dangos mwy o ddefosiwn na llawer o Gristianogion didwyll; ei anffawd yw, fod ei ddefosiwn o'r fath nodweddiad camsyniol; dichon ei fod ef yn ddidwyll, ond methodd ddefnyddio goleuni rheswm yr hwn a roddodd Duw iddo er ei arweiniad;—etto pwy all ddweud na bydd iddo ef godi fynu mewn bam yn erbyn Uawer yn ein plith ein hunain ? Hen wraig fonheddig, ag oedd yn arfer cadw cyfrif man- wl o'i hymddygiad ei hun, a addefodd i Offeiriad adnabyddus iddi, na bu iddi erioed edrych dros ei dydd-lyfr heb gael Uawer o bethau yno i bery galar iddi. "Nid wyf yn rhyfeddu wrth hyn," ebe'r Offeiriad, "ond pan yr ŷch yn cael felly, beth ydyoh yn ei wneuthur ? " " 0," ebe'r foneddiges, " yr wyf yn