Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

" LLWYDDED T KHAI A'TH HOFFANT." J§oll=ta£îtoM) IBub). Fel ag yr oeddwn yn rhodio allan ar ol machlnd haul, ac yn syllu ar hawddgarwch a phrydferthwch y greadigaetli o'm hamgylch, daeth lleni'r nos i'm gorchuddio brajdd yn ddiarwybod imi. Wrth i'r dydd ddiflanu a ffoi ymaith i ar- daloedd y gorllewin, y ser a'r planedau a ddechreuent ddy- fod i'r golwg yn raddol y naill ar ol y llall, gan ymddangos megis yn wasgaredig ar hyd wyneb eang y ffurfafen. A chyn pen nemawr o amser cyfodai y lleuad hefyd gan rodio mewn disgleirdeb a mawrhydi yn mysg y ser a'i hamgylch- ent hi. Wrth imi syllu ar yr olygfa hyfryd a ehyffrous yma, dcchreuais feddwl a myfyrio am Dduw yn ei fawredd ac yn ei briodoliaethau. Ac yr oeddwn yn barod yn yr olygfa i waeddi allan yr un modd aDafydd gynt—"Pan yr edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a'r ser, y rhai a or- deiniaist; pa beth i'w dyn i ti feddwl am dano, neu fab dyn pan wnait gyfrif o hono." Pan yn craffu yn fanwl ar y lluoedd aneirif o ser, neu yn hytrach o heuliau, y rhai oeddynt yn pelydru aniaf o bob rhan o'r ehangder maitli, ac hclÿd ar y planedau, neu'r byd- oedd oeddynt yn troì o amgylch yr heuHau hyn, dechreuais feddwl y gallai bod ffurfafen arall tu draw i'r un oedd yn