Skip to main content

»f ügîlûtöiìŵ LLWYDCBD Y BHAI a'TH HOFFAST." (5retí)semam. Y mae holl hanes bywyd ein Harglwydd Iesu Gríst yn nyddiau ei gnawd yn llawn o ryfeddodau. Os dilynwn Ef o gam i gam o feudŷ Bethlehem hyd atfjrrydd yr Esgyniad, canfyddwn ryfeddodau mwy na mwy yn ymgynnyg i'n sylw heunydd : ac ymhlith yr holl ryfeddodau hyn y mwyaf—os gall mwyaf fod lle mae'r cwbl yn anfeidrol—y mwyaf, medd- yliwn, ydyw y rhai sydd ynglýn ai ymddarostyngiad Ef. Rhyfeddol oedd y gân a glywyd uwch ben Bethlehem, pan gyhoeddodd Engyl Duw " ewyllys da i ddynion;"—ond rhy- feddach oedd yr olwg yn y beudŷ, lle gwelwyd Mab Duw "wedi ei rwymo mewn cadachau"! Rhyfeddol oedd ei ddoethineb, pan yn ddeuddeng mlwydd oed yr eisteddodd ynghanol doctoriaid y Deml " yn gwrando arnynt, ac yn eu hoh hwynt;"—ond rhyfeddach oedd ei ufudd-dod i'w ríeni, pan aeth i waered gyda hwynt i Nazareth, ac a fu ostynged- ig iddynt! PJiyfeddol oedd ei wyrthiau, pan wrth ei air Ef y gwelodd y dall, y llefarodd y mudan, ac yr adgyfododd y marw;—ond rhyfeddach oedd ei ddioddefiad amyneddgar o wawd ac erlid gan y sawl y daethai i'w hachub! Yn ei wyrthiau a'i ddoethineb nid oedd ond yn ymddwyn yn gys- son â'r hyn a welsid o'i Briodoliaethau er tragywyddoldeb.