Skip to main content

ímmanud. Yn ydym yn cofio sylwi, pan yn darllen llytbyrau rhai o'r hen Ddiwygwy r, i un o honynt ddechreu amrai o'i lythyrau ar gair " Immanuel," gan roddi hwn megis arwydd-air ei lythyr, ac megis cyfanswm ci ddymuniadau tros ei gyfaül. Fel j)e dywedasai, yn lle " Gras a thangnefedd i ti," " Im- manuel i ti"—" Duwfyddo gyd â thi." Ac nis gallwn fedd- wl am unrhyw well arwydd-air i'r Eglwysydd a'i ddarllen- wyr ar ddechreu blwyddyn newydd, nag " Immanuel." Ein dymuniad goreu trostynt hwy a ninnau ydyw, am adnabod o honom dnvy brofiad ystyr yr cnw gwerthfawr hwn, a chael "Immanuel," "Duw gyda ni." Gall fod rhai o honynt, wrth edrych yn ol ar y ílwyddyn ddiwedd if, yn corio rhyw gyfaill neu berthynas hofl', ag oedd yn t_i dechreuad yn hoyw ac yn iach, ond sydd yn awr â'i drigfa yn y wlad, o'r hon nid oes dychwelyd mwy. Tywyllodd y Uygaid a'u llon- nodd, a'r tafod, a'u difyrrodd íì'i f'elus ymdditìdanion, sydd heddyw'n ddistaw yn mhriddellau'r dyffryn, a'r galon gyn- nes o gariad sydd yn awr wedi peidio â'i churo yn oer ystaf- elloedd y bedd. Ond er i wrthddryehau eu serch fel hyn griio ymaith o'u golwg, os eiddo Crist ydynt, y mae gan- ddynt etto " Immanuel,"—" Duw gyda ni,"—yr un mewn gallu, fíyddlondeb, a chariad, ag oedd Efe erioed! Heblaw'r diddanwch a ddichon yr Enw hwn ci gyf lwyno yugwyneb amgylchiadau o'r fath hyn, y mae hef yd yn dcstuu cymmwys i'r tymhor presennol, yn yr hwn yr ydym, yn ol trefn yr Eglwys, yn coffau digwyddiadau i'hyfeddol yr amser hwnnw, pan y disgynodd Mab Duw o ororau gogoniant—yr ymwaecaodd o'i fawredd, ac yr ym- wisgodd yr Anfeidrol û meidroldeb, y Tragywyddol â marw- oldeb, er mwyn bod yn Immanuel—Duw gyda ni! Y mae rhyw gyfiawnder yn yr enw hwn a roddwyd ar yr Iesu, nad yw yn perthyn i'r un arall o'i ditlau ardderchog. Y mae mewn un gair yn mynegi holl sylwedd trefn y brynedigaeth. VOL. II. B