Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD. Rhif. 12.] RHAGFYR, 1850. [Cyfrol iv. ^fgnnon OTmffrftŵ, neu (Bfoenfrefoí. Rhoddwn gyd â'n rhifyn presennol ddarlun o Ffynnon enwog Tre- îynnon,—y ffynnon enwoccaf yn y deyrnas. Mr. Pennant a Idywed, yn ei hanes am dani, ei bod yn bwrw i fynu un ar hugain o lunnelli o ddwfr bob munud ! ac nid yw byth yn rhewi. Yn oesoedd tywyll Pabyddiaeth defnyddiwyd y ffynnon hon gan Fynachod Basingwerke i ddibenion coel-grefyddol; ac er mwyn pr'iod- dIì rhinwedd wyrthiol iddi, dyfeisiwyd y ffüg-chwedl a ganlyn am ei iechreuad:— " Yn y 7fed ganrif bu fyw morwyn o'r enw Gwenffrwd neu Gwen- frewi: enw ei thad ydoedd Thewith, tywysog galluog yn y parthau ynghylch Treffynnon, ac enw ei mam oedd Wenlo, chwaer i St. Beuno. Yr oedd Beuno o duedd crefyddol; fe adeiladodd eglwys ac a sefydl- odd Fynachlog yng Nghlynog, yn Sir Gaernarfon. Wedi hynny dych- welodd at ei berthynasau yn Nhreffynnon—derbyniodd gan ei frawd- yng-nghyfraith y tir ar yr hwn y saif yr eglwys a'r fynwent yn bre- sennol, a chymmerodd ei nith, Gwenffrwd, dan ei ofal. " Prydferthwch Gwenffrwd a ddenodd serch Caradog, mab y brenbin Alun, yr hwn yn fynych a geisiodd ganddi ei briodi, ond a wrthod- wyd ganddi bob tro. O'r diwedd pan y gwrthododd hi ei gynnygion ac a ymdrechodd dd'iangc o'i afael ef, Caradog a redodd yn ffyrnig ar ei hol, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a dorrodd ymaith ei phen. Treigl- odd y pen i lawr yr allt, ac a arhosodd yn agos i'r eglwys, lle'r oedd St. Beuno ar y pryd yn gwasanaethu. Pan wybu Beuno am y weithred erchyll, daeth allan, ac a gymmerodd i fynu y pen, ac a'i dygodd at y corph ac a'i hunodd eilwaith âg ef! " Ar hyn fe darddodd allan o'r man, lle y safasai y pen, ffrwd helaeth a rhyfeddol o ddwfr ! Bu Gwenffrwd fyw ar ol hyn bymtheng mlyn- edd! Dywedir mai enw y nant, drwy yr hwn y rhêd y ffrwd yma, oedd Sychnant o'r blaen, o herwydd ei sychder, ond y gelwid ef wedi hynny Fullbrooh; bod y mwsogl ar ochrau 'r ffynnon yn rhoddi yn wyrthiol arogl peraidd; bod y gwaed wedi brychu y cerrig ar waelod y ffynnon, y rhai ar amserau neillduol sydd â lliwiau gwahanol arnynt i'r hyn a berthyn iddynt yn naturiol; bod y dref wedi ei galw yn " Dreffyn-