Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD. Rhif. 8.] AWST, 1850. [Cyfeol iv. Un Weddi yn unig a ddysgodd yr Arglwydd Iesu i'w Ddisgyblion; ac y mae honno, er yn fer, yn un gynhwysfawr iawn. A bwriadwyd hon ganddo, mae'n ddiammeu, nid yn unig i ddysgu iddynt beth i ddywedyd, pan yn gweddio, ond hefyd beth i'w ddymuno;—pa fath bethau a ddylent eu ceisio, ac ymhlith y pethau hyn pa rai a ddylent eu ceisio yn bennaf. Fe ddylai y Cristion gan hynny nid yn unig ddefnyddio ei geiriau, pan yn nesâu at Dduw, ond hefyd ffurfìo rhediad ei serchiadau yn wastadol yn ol ansawdd y Weddi hon, fel ag i geisio ac i ddilyn yn fiaenaf y pethau a osodwyd i lawr yma yn fiaenaf. Yn awr, un o'r deisyfiadau blaenaf ynddi ydyw hwn, " Deued dy deymas." Dysgir i ni weddio am hyn yn feunyddiol hyd yn oed cyn gweddio am ein bara beunyddiol, nac am faddeuant na chadwedigaeth beunyddiol; ac felly dangosir i ni y dylai fod gogon- iant ein Tad a lledaeniad ei deyrnas Ef yn fwy pwysig yn ein golwg nâ chyflawniad ein hangenrheidiau personol ein hunain. Megis y gorchymynodd Crist i ni mewn man arall, "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg." Ceisiwch adnabod y deyrnas hon yn gyntaf yn eich calonnau eich hunain, ac yna am iddi ymledaenu trwy'r holl fyd. Ac os dylai gweddì y Cristion fod am hyn o fìaen pob peth arall, fe ddylai ei ymdrechiadau fod felly hefyd; ac am hynny nid yw byth yn ymddwyn yn fwy unol âg ewyllys ei Arglwydd, nâ phan ya gwneuth- ur yr hyn a allo tuag at brysuro ymlaen yr amser dedwydd, pan fydd teyrnasoedd y byd hwn wedi dyfod yn eiddo ein Harglwydd ni. " Deued dy deyrnas;"—ni wel y dyn anianol yn lledaeniad y deyrnas hon ddim ond llwyddiant un gyfundrefn o athrawiaeth yn erbyn y llall, neu fuddugohaeth un sect ar y llall. Ië, mae achos ofni, bod llawer, a alwant eu hunain yn Gristianogion, mor ddibrofìadol o werth crefydd Crist, fel nas gallant, neu yn hytrach nas mynnant weled, pa- ham nad allai y byd fod mor ddedwydd o dan deyrnasiad eilun-addol- iaeth, neu Fahometaniaeth, neu anffyddiaeth, neu ryw aeíh arall, ag o dan Gristianogaeth; ac am hynny dinnygant, neu o leiaf ni wnant ddim tuag at ddwyn ymlaen deyrnasiad Crist ar y ddaear. A hyn yw 'r achos fod cyn lleied, mewn cydmariaeth, yn Eglwys weledig Crist,