Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD. Rhif. 6.] MEHEFLN, 1850. [Cyfrol iv. ÿccöoöau leucngcttìi. Pechod ydyw uiani pob tristwch, ac nid oes ua math o bechod yn ymddangos fel yn rhoddi cymmaint o boen a gofid i ddyn a phechod- au ei ieuengctid. Y gweithredoedd ynfyd a gyflawnodd—yr amser a ofer-dreuliodd—y camsyniadau a wnaeth—y gyfeillach ddrwg a gadw- odd—y niwaid a wnaeth iddo ei hunan, mewn corph ac enaid—y cyf- leusderau o fod yn ddedwydd a daflodd ymaith—y manteision i fod yn ddefnyddiol a esgeulusodd—y mae yr holl hethau hyn yn aml yn chwerwi cydwybodau hen bobl, yn taflu prudd-der dros hwyr eu dyddiau, ac yn llenwi oriau olaf eu bywydau û hunan-gyhuddiadau a chywilydd. Fe fedrai rhai ddywedyd am golliant anamserol o iechyd trwy bech- odau eu hieuengctid. Y mae afiechyd yn arteithio eu haelodau â phoenau, a'u bywydau bron wedi myned yn flinder iddynt. Mae cryfdwr eu cyrph wedi eu camdreulio yn y fath fodd, fel y mae ceiliog rhedyn yn faich iddynt. Mae eu llygaid wedi pylu cyn eu hamser, a'u nerth wedi darfod. Mae haul eu hiechyd wedi machludo tra y mae hi etto yn ddydd, a galarant wrth weled eu cnawd a'u hesgyrn yn edwino. Coeliwch fi, mai cwppan chwerw iawn ydyw hon i'w hyfed. Galìai eraill roddi i chwi hanesion galarus am ganlyniadau segurdod a diogi. Taflasant ymaith y cyfleusderau euraidd i dderbyn addysg- iaeth. Ni fynnent dderbyn doethineb yn yr amser yr oedd eu meddyl- iau yn fwyaf cymmwys i'w dderbyn, a'u côf yn fwyaf parod i'w gadw. Ac yn awr y mae yn rhy ddiweddar. Ni feddant hamdden i eistedd i lawr i ddysgu. Nid ydynt yn awr yn meddu yr un gallu, hyd yn oed pe meddent yr un amser. Ni ellir byth prynu yn ol yr amser a goll- wyd. Y mae hon hefyd yn gwppan chwerw i'w hyfed. Gallai eraill ddywedyd wrthych hefyd am gamsyniadau galarun meun barn, oddi wrth ba rai y maent yn dioddef trwy eu holl oes. Mynnent gael eu ffordd eu hunain. Ni wrandawent ar gynghor. Ffurfiasant ryw gyssylltiad, sydd wedi bod yn hollol andwyol i'w dedwyddwch. Dewisasant ryw alwedigaeth yr oeddynt yn hollol ang- hymmwys iddi, ac y maent yn gweled hyn i gyd yn awr. Ond njd yw eu Uygaid yn agor hyd nes y mae yn rhy ddiweddar i adferu. Och! y mae hon hefyd yn gwppan chwerw i'w hyfed! cyf. rv. •