Skip to main content

YR EGLWYSYDD. Rhif. 5.] MAI, 1850. [Cyfrol iv. $a fotẁ b öeuaf at jffortŵ pr &rglfoBÌŵ ? Susan. Bore da, Gwen; mae arnaf eisiau cael tippyn o ymddiddan â thi. Pan ddaeth ein Gweinidog, Mr. Thomas, i yinweled â mi yr wythnos ddiweddaf, fe siaradodd wrthyf ynghylch dyfod at Fwrdd yr Arglwydd; a dywedodd, Nad oedd yn meddwl hod neh, a arhosai oddi wrtho, yn wir yn caru eu Hiachawdwr bendigedig ! Gwenffrwd. Wel, Susan ? S. Yr wyf yn meddwl ei fod yn beth caled iawn i'w ddweyd. Yr wyf yn sicr bod llawer iawn o bobl dda nad ydynt byth yn myn'd yno. G. Susan, pa'm yr wyt ti yn cymmeryd y fath ofal gyd â dau blentyn dy chwaer druan ? Y mae gennyt deulu mawr dy hun, ac y mae yn aml gymmaint ag y gelli wneud i gael tammaid iddynt; pa'm na anfonet ti hwy i'r Worhhouse ì S. Yr oeddwn yn meddwl, Gwen, dy fod yn gwybod, mai y geiriau olaf braidd a ddywedodd fy chwaer druan wrthyf cyn marw oeddynt, " 0 Susan, Susan, na ad i'm plant druain fyned i'r worJchouse." Ni anghofiaf byth mo'i llais hi pan yn dweyd y geiriau; yr oedd yn myned at fy nghalon i weled ei chariad tu ag at y plant anwyl yna, ac mi a addewais iddi, gystal ag y gallwn gan wylo, tra byddai gennyf grystyn o fara neu bytaten, y caent hwy ran o hono; ac na chaent fyned i'r tŷ, tra byddwn i byw. G. Yr oeddit yn caru dy chwaer yn fawr ? S. Oeddwn yn wir, a da y gallwn i, o herwydd chwaer dda oedd hi i mi; nis gallwn ddweyd yr hanner wrthych. Yn wir yr wyf yn credu mai oerfal, a gafodd hi pan yn gweini i mi yn fy nghlefyd tost, a barodd ei marwolaeth hi, ac ni ddymunwn byth anghofìo y peth olaf a ddeisyfiodd hi gennyf, cyn iddi druan gau ei llygaid a dweyd, " Iesu tirion, derbyn fy yspryd." G. Yn wir fe arwyddai ychydig iawn o gariad, pe gallet. Ond dywed i mi, Susan, pa bryd y torrodd ein Hiachawdwr bendigedig y bara ac y bendithiodd y gwin, ac y gorchymynodd iV ddisgyblion fwytta ac yfed er coffa am dano ? S. Onid ar ei ewpper olaf, ychydig cyn ei hoelio Ef wrth y croes- bren melldigedig? CYF. IV. f