Skip to main content

YR EGLWYSYDD. Ehif. 4.] EBRILL, 1850. [Cyfrol iv. GDanlgn GDríst o &írM. Weth edrych i mewn i'r hanes, a rodcìir i ni, yn y llithoedd pennodol am y tymhor presennol, am ddyddiau olaf ein Hiachawdwr ar y ddaear, gallwn dynnu llawer o addysg buddiol a phriodol i ni ein hunain oddi wrth ymddygiad ei Ddisgyblion. Ac ym mhlith y rhai hyn nid oes neb, fe allai, sydd yn dwyn ein sylw, nac yn ennill ein cyd-ymdeimlad yn fwy, na Simon Petr. Hwn fuasai y blaenaf ym mhob amgylchiad, yr ymadroddwr pennaf ar bob achos, y parottaf bob amser i dystio ei zel dros ei Harglwydd. Hwn, gyd â meibion Zebedëus, a fwynhasai fwyaf o gymdeithas eu Harglwydd, ac a welsai fwyaf hyd yn byn o'i ogoniant. Pan y gwedd-newidiwyd Ef ar fynydd Tabor, yr oeddynt hwy yno, yn canfod ei brydferthwch Ef, a daeth rhai o drigolion disgleiriaf gwlad y nef i ymddiddan âg Ef yn eu gŵydd hwy, ac mor hardd oedd yr olygfa, mor nefolaidd yr ym- ddiddan, nes yr oedd Petr am wneud ei gartref yno: " Arglwydd," meddai, "da yw i ni fod yma; gwnawn dair pabell!" A phan dris- tawydenaid y Cyfryngwr hyd angau yn yr ardd, yr oeddynt hwy yno; gwelsant y chwys gwaedlyd, clywsant ei ruddfannau gofìdus, a derbyn- iasant ei rybudd sobr drachefn a thraehefn, " Gwyliwch a gweddiwch, fel nad eloch i brofedigaeth !" Ar ol hyn oll gallem yn hawdd gredu, mai gwir fyddai geiriau Petr, " Pe rhwystrid pawb o'th blegid di, etto ni'm rhwystrír i byth."—Ond wele awr o brofedigaeth lem yn dyfod !—Judas a'i luoedd yn nesâu ! a daccw Petr, ar y cyntaf, yn llawn o eofndra yn barod i wynebu'r frwydr, ac yn taro gwas yr Arch-offeiriad ! Ond wele'r Iesu, er syn- dod iddo ef a'r disgyblion eraill, yn gorchymyn i Petr ddodi ei gleddyf yn y wain, yn rhoddi ei Hun yn nwylaw ei elynion, ac yn cael ei arwain ymaith, megis cablwr, i lys yr Arch-offeiriad! Ond beth wnaeth Petr yn awr ? Efe " a'i canlynodd o hirbett." —Dyma'r arwydd gyn- taf o anffyddlondeb i'w Arglwydd. Yn awr oedd yr amser i fod yn ddewr, ac i dystio o'i blaid Ef. Yn awr oedd eisiau cyfaill i ddinoethi gau-dystiolaeth ei elynion, ac i sicrhâu ei ddiniweidrwydd Ef. Ond wele yn awr bob cyfaill yn ffoi—" O'r bobl nid oedd neb gyd âg ef;" a dyma Petr, yr hwn ychydigyn ol oedd mor eofn, yn canlyn ond o hir- bell ar ol y dorf! Ac nid arhosodd ei anffyddlondeb ef yma: aetb. rhag- CTF. IV. B