Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD. Rhif. 1.] IONAWR, 1850. [Cyfbol iv. ¥ törlasfoelltpn a ŵatr Bufo. " Pob cnawd sydd wellt, a'r holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes ......... Gwywa'r gwelltyn, syrth y blodeuyn; ond gair ein Duw ni a saif byth."—Esay xl. 6, 8. Y cyfryw ydyw tystiolaeth y Datguddiad Dwyfol am freuolder einioes dyn; ac y mae ei brofiad ef ei hun yn cadurnhâu, mai gwir yw. Er cymmaint fyddo ei nerth a'i ymffrost, mae pob un yn ei dro yn gorfod tystio, " mai gwellt yw pob cnawd." Oh fel mae'r gyffelybiaeth hon yn iselu balchder dyn ! Nid yw yn cael ei gyffelybu i'r dderwen gadarn, yr hon a saif yngwyneb y dymmestl, ac a yrr ei gwraidd yn ddyfnach er gwaetha'r dryccin—nac ychwaith i'r balmwydden îr, yr hon sy'n blodeuo tros lawer oes—ond i'r glaswelltyn, yr hwn sydd heddyw, ac y foru a fwrir i'r ffwrn! Dyma'r hyn ag y mae Yspryd Duw yn ei ystyried yn beth addas i arddangos i ni beth yw dyn:—o ran ei sylw- edd nid yw ond megis gwelltyn, ac o ran ei odidowgrwydd ond fel blo- deuyn y glaswelltyn ! Nid yw hwn yn tyfu fawr uwch na gwyneb y ddaear, ac mae ei ben yn wastad yn plygu tu a'r llawr;—y mae yn agored i bob gwynt, ac yn hawdd ei ysgwyd gan bob awel. Felly dyn: mae ei enaid yn glynu wrth y llwch, ac nid peth hawdd ganddo yw dyrchafu ei serchiadau at bethau sydd uchod. Y mae yn agored i bob damwain, ac yn hawdd ei gythryblu gan bob amgylchiad. Bu- an y gwywa, ac y diflanna ei holl ogoniant ef ! A phe na bae ganddo obaith ond yn y bywyd hwn yn unig, truenusaf fyddai o'r holl gread- uriaid ! Ond y mae dyn wedi ei alw i etifeddiaeth ragorach na hon!— Mae gair Duw yn cynnyg iddo, er mor wan a brau yw ei enioes ef yma, ran anfarwol mewn byd na dderfydd byth, ond iddo gydsynio â'r gwahoddiad graslawn a anfonir atto. Mae y gair hwn yn sicrhâu gogoniant diddiflannedig i'r rhai sydd yng Nghrist Iesu. Nid yw yn cyfnewid, mae'n wir, eu sefyllfa allanol yn y bywyd hwn: Y mae yn eu gadael yn agored i'r un damweiniau ag o'r blaen—y maent etto o ran eu nerth a'u harddwch corphorol yn wywedig, fel y glaswelltyn; ond mae ganddynt, er hynny, brydferthwch na ddiflanna byth. Ac er i grymman Angau, y Medelwr mawr, eu torri oddi ar wyneb y ddaear, nid yw ond yn eu symmud i flodeuo yn anfeidrol fwy ym Mharadwys