Skip to main content

YR EGLWYSYDD. CYFRES NEWYDD. Rhif. 12. RHAGFYR, 1853. Cyf. III. g Ŵattatf gn &rfogîtòltm o &ugatt. Y doethtneb mwyaf, y gall dyn ei arfer tra yn y fuchedd hon, ydyw defnyddio holl amgylchiadau ei fywyd fel cynnifer o wersi iddo ef ymbarottôi gogyfer â'r cyfnewidiad mawr sydd o'i flaen—Ang- au. A thyna'r diben sydd gennym wrth ysgrifenu'r ysgrif ganlynol, sef dwyn sylw neillduol ein darllenwŷr at y cyf- ryw bwngc pwysig. Gwelsom wahanol dymhorau'r flwydd- yn yn cael eu cydmaru i wahanol sefyll- fäoedd bywyd dyn, ac y mae cryn radd o briodoldeb yn y gydmariaeth. Y mae'r Gwanwyn, pan y mae Anian yn ymwthio i fywyd, a chyd â'r fath dir- ionwch yn gwasgaru ei swynion tyfol, ynghanol cylchgyfnewidiad o weniadau a dagrau, pan y Mae ael Anian yn ymlonni,—a'n brain Mewn brys am ddëori, A'n hadar yn mwyn nodi Miwsig y nef yn ein mysg ni, a phan y mae Main laswellt yn mwyn ail oesi—man lle bu Mewn lliw balch yn codi ; Mae allan drefn meillion di ri', Mae ail olwg am y lili, y mae'r Gwanwyn, meddwn, etto yn dwyn i'r cof dymmor hyfryd babandod ac ieuengctid. Yr Haf, drachefn, gyd â'i brydferthion aeddfed a'i alluoedd adfywiol, a ddengys dymmor dynoldeb. Elfed fautumnj, pan y mae y cynhauaf euraidd yn aeddfed, y meusydd yn cael eu dad- wisgo o'u hanrhydedd, ac Anian wyw- edig yn dechreu ymollwng, sy'n ar- lun tarawiadol o'r blodeu almon, ac eiddilwch agoshäol hen ddyddiau. Y gauaf, wed'yn, gyd â'i oerder, ei unigedd, a'i farweiddiwch, sy'n arwyddlun cywir o'r gwyneb rhychiog, ac ynni gwywedig y corph dynol, pan y mae wedi myned i afael " Drygau y pedwar-ugain—anailael, Na ellir braidd ubain ; Prif hainl yr henaint yw'r rhai'n, Gwachul, a chul, a chelain," a phan y mae'r dyn yn gwywo " dan bang yr angau." Y mae'r tymmor yma, pan y mae holl Anian yn gwywo yn ein gŵydd, y coed yn cael eu hyspeilio o'u dail a'u hardd- wch, y blodeu wedi edwino, a gwynt deifiol y gauaf yn dechreu rhoddi diben ar holl brydferthwch yr haf,—y mae y tymmor yma yn dra addas i ni ystyríed y cyffelybrwydd sydd yn hwn i'n trangced- igaeth ein hunain, ac i'n hadgofio o'r dad- feiliad dynol. Y mae y galluoedd byw- haol, ag oeddynt yn cynnyrchu llysiau, wedi eu cadw draw; y coedwigoedd yd- ynt ddiddail; y mae bryn a nant megis yn gwisgo eu galar-wisgoedd; ac nid oes ond diffeithiad digysur yn teyrnasu o fryn i fryn, ac o ddôl i ddôl. Y mae ad- gof am yr hyn a aeth heibio, a blaen- brofiad o'r hyn a ddaw, yn pwyso ar y meddwl ystyriol. Boed i ni yn awr. gan hynny, droi ein meddyliau ar y jjwngc o farwolaeth, yr hwn sy'n dwyn tebygrwydd mor union-gyrchol i'r hyn y soniwn am dano. Marwolaeth ydyw tynged ddiweddaf gyffredin pob creadur byw. O'r gwy- bedyn lleiaf, yr hwn na's gellir ei gan- fod ond trwy gymmorth chwyddwydr, i fynu at ddyn—arglwydd y greadigaeth. Ehaid i bob peth farw. Y mae gan bob creadur ei wanwyn, ei haf, a'i elfed,—y mae ganddo ei auaf hefyd. Gyd â rhai nid yw bywyd, yn llythyrenol, ond un diwrnod, neu lai,—ychydig oriau efallai:—y mae eraill drachefn yn byw yn hwy nâ bodoliaeth y bywyd dynol; ond y mae gwahanol ystadau bywyd yn perthynu i'r trychfil dÌBtadlaf mor wir-