Skip to main content

YR EGLWYSYDD OYFBES NBWYDD. Rhif. 11. TACHWEDD, 1853. Cyp. III. áWfognteratt líealtol a mot*ùl g Netoŵr* Y mae'r sefyllfa, y mae dyn wedi ei osod ynddi ar y ddaear yma, wedi bod, ym mhob oes, yn destun rhyf- eddod i philosophyddion, ac yn ddirgelwch anneongladwy i'r ang- nghrefyddol. Cafodd dyn ei greu yn ddoethach nâ'r anifail a ddifethir, a chanddo fwy o ddealltwriaeth nâg adar y nefoedd. Un o achosion, y rhyfeddod y cyfeiriwyd» atto, ydyw yr eangder i ba un y dadblygir ei alluoedd a'i gynheddfau gan yr am- gylchiadau y byddo wedi ei osod ynddynt, yr hyn, pa fodd bynnag yr edrychir ar y pwngc gan eraill, sy'n llenwi y meddwl duwiolfryd â gostyngeiddrwydd ac addolgarwch, tra y mae yn argraphu yn ddyfnach, ddyfnach, yr ymsyniad o Raglun- iaeth holl-ddarbodol. Gwelsom yr effeithiau rhyfeddol o'r hyfforddi- adau y mae dyn yn myned tanynt trwy gyfaddasrwydd y byd natur- iol i gyflenwi ei anghenion, a'r argymhelliad ag y maent yn eu hyfforddio i'w ymarferion meddyl- iol a chorphorol, pa rai ai try yn amaethwr, yn llaw-weithydd, ac yn greôìwr; a pho bellaf yr awn ym mlaen gyd â'r olrheiniaid, mwyaf o achos addoli a gawn. Ond y mae'n ammhosibl i ni beidio .dar- bwyllo ein hunain, fod y manteis- ion hyn yn fynych yn profì yn fell- dithion. Yr ydym wedi ein tyng- hedu i ocheneidio am bleserau na's gallwn eu mwynhâu, bod yn ym- wybodol o alluoedd na's gallwn eu rhoddi mewn ymarferiad, a hir- aethu am berffeithrwydd na's gallwn ei gyrraedd. Yr ydym yn teimlo ein hunain wedi ein cyfyngu mewn carchar, yr hwn sy'n attal ein rhydd- id, ac yn talfyrru ein gwybodaeth ; a'r lle yr ydym yn edrych trwy wydr cadduglyd ag sy'n tywyllu ein rhag- drem, ac yn cyffrôi ein cywreingar- wch heb ei foddhâu. Ond y mae Datguddiad yn eg- luro'r dirgelwch. Dygodd Crist fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy'r Efengyl. Yr ydym yn dysgu trwyddo Ef nad oes i ni ddinas bar- hâus yn y byd yma, ond mai ystad o ragbarottôad ydyw gogyfer â bod- oliaeth uwch. Ym mabandod ein bodoliaeth yr ydym yn awr, pan y mae ein galluoedd a'n cynheddf- au yn dechreu ymledu,—pryd y mae ein gwybodaeth agoriadol o angenrheidrwydd yn ammherffaith, a'n mwynderau yn gyfyngedig. Ond " rhaid i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth," a " phan ddelo yr hyn syddberffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddilëir." " Pan oeddwn fach- gen," meddai'r Apostol, gan ddilyn yr eglurhâd yma, " feí bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn; ond pan aethum yn wr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd. Canys gwel- ed yr ydym yr awrhon trwy ddrych, mewn dammeg; ond yna wyneb