Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD CYFJRES NEWYDD. Rhif. 10. HYDREF, 1853. Cyf. III. $rgìmfjatott Sttl gu &lî>an eifŵ Y mae rhyw beth yn dra hyfryd yn hwyr y dydd ym mhob tymmor o'r flwyddyn. Y mae'r dydd, gyd â'ì ddyledswyddau amrywiol, wedi my- ned heibio, ac y mae'r cyflychwŷr distaw yn rhoddi nodweddiad o lon- yddwch a thynerwch i bob gwrth- ddrych. Nid yw'r meusydd mwyach yn ymddisgleirio dan y pelydrau adfywiol, ond gorweddant yn y cysgod, fel pe byddent yn awyddus i yfed pob diferyn o wlith sy'n cael ei ddistyllio yn yr awyr dawel. Y mae gwyneb anian, yn yr awr hon, wedi ei arwydd-nodi âg argraph cyfnewidioldeb, ac nid anfynych y bu i'w difrifoldeb aflonyddu cwsg y gydwybod ddîystyr, am foment, mewn adgofiant am ddyddiau a dreuliwyd mewn gwagedd, a nos- weithiau a ddifâwyd mewn ynfyd- rwydd, a deffrôi ryw feddylddrych am yr Hwn, llais distaw fain pa un sydd yn cael ei foddi yn aml yn swn dwndwr y byd yma. Ond, os ydyw'r prydnhawn ynddo 'i hun mor garu- aidd a hyfryd, ac mor gyfaddas i ddeffrôi adfeddylion, y mae terfyn- iad dydd Sabbath yn llefaru mewn tôn ddyfnach o lawer wrth y Crist- ion ; ac y mae'n gwestiwn, pa un a oes unrhyw gyfnod arall mor llawn o fwyniant a hyfrydwch iddo. Y mae'n edrych at yr adeg yma gyd â rhag-ddisgwyliad hyfryd ynghanol gwahanol oruchwylion yr wythnos, ac y mae yn croesawi eu dyfodiad megis dychweliad cyfaill a fu 'n ab- sennol am amser maith. A pha beth yw yr achos o'r mwyniant yma ? Nid tynerwch y cyflychwŷr, na phrydferthwch dirgeledig sym- mudiau'r goleuni a'r cysgod. Y mae'r pethau hyn yn cael eu gwerthfawrogi yn well gan y Crist- ion nâ chan neb arall, ond nid yn- ddynt hwy y mae ei heddwch. Y mae'r meddwl, yr hwn sydd mewn heddwch eisoes, yn barod i fwynhâu golygfeydd sydd mor gydweddol â'i sefyllfa; pryd y mae llawer, sydd wedi bod yn chwilio am ddiddan- wch mewn pethau allanol, wedi gorfod profi mor wael y mae pethau sy'n cynnyg gorphwysdra, yn gallu cyttuno â chalon nad all orphwys. Nid yw prydnhawn Sul, ynddo 'i hun, yn fwy hyfryd nâ ryw bryd- nhawn arall. Y mae gogoniant y Creawdwr yn cael ei amlygu ymhob machludiad haul, pan, " Ar derfyn dibyn ei daith, Ail ardal ei awyr-daith, Gorphwysa, noswylia Sol, Ger y llanw Gorllewinol;" a phan y mae y Lloer yn dechreu dyfod i'r golwg, yn cael ei ddilyn gan y ser, y rhai sydd fel " Mân lanternau golau, gwych, Cannoedd o lampau ceinwych, * » * Neu geinmyg emmau ganmil, Neu burliw fân berlau fil: * * * Morwynion heirddlon harddloer, A llaw-forwynion y lloer."