Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

E EGLWYSYDD. CYFRES NEWYDD. Rhif. 9. MEDI, 1853. Cyf. III. "J£x tm .^rgltogìttí ar ímtofc/' Ehuf. x. 12. Ddarllenydd Anwyl, — Bwriedir yr ysgrif ganlynol i ddwyn dy fedd- wl i sylwi ar ac adgoffa gallu Duw, megis y mae yu cael ei ddangos yng ngwaith ei ddwylaw. Y mae y geiríau o'r ysgrythyr a roddasom uwch ben y bennod yma yn rhoddi ar ddeall i ni mai 'r " un Arglwydd sydd ar bawb." Efe yw Creawdwr, Cynhaliwr, a Llywodraethwr yrholl fydyssawd. Cyn iddo wysio'r ddaear yma i fodoliaeth yr oedd Ef yn teyrnasu yn y goruchafion mewn Mawrhydi anfeidrol; nid oes, ac ni chaiff fod byth, yr un cydymgeisiwr yn agos i'w orsedd ; canys Efe " oedd, sydd, ac sydd i ddyfod," j yn " Frenhin tragywyddol, anfarw- ol, ac anweledig—y goruchel a'r dyrchafedig Dduw, yr Hwn a bres- wylia dragywyddoldeb, a'r Hwn y mae ei enw yn Sanctaidd," a " chŷd â'r Hwn nid oes gyfhewid- iad na chysgod troedigaeth." Anfonodd allan ei air creadigol, a'r ddaear a neidiodd i fodoliaeth. Ei Yspryd a ymsymmudodd " ar wyneb y dyfroedd," a'r weilgi aflon- ydd a anfonodd ei morgesig ter- fysglyd oddi ar wyneb y sychdir:— '' Cauodd y niôr â dorau—trwy seiliau Trosoliou a barrau; Fe gauodd, l'e glôdd yu glau Ddafnau dw'r ei ddyfnderau." Taenwyd y blodeu, y llysiau, a'r planhigion, yn eu holl amrywiaeth a'u prydferthwch dros wyneb ein byd,—o deyrn sefydlog y goedwig, i lawr i'r blodeuyn mwyaf disylw sy'n crymmu ei ben wrth ochr ffryd- lif y nant. A phob peth sydd âg anadl einioes ynddo a alwyd i fod- oliaeth; y bwystfilod sy'n rhodio yn yr anialwch—yr aderyn sy'n hollti'r awyr â'i adenydd — y gwybedyn eiddil sy'n ymloewi yn llygad yr haul—a'r llwythau pysgadawg sy'n dolenu yn eu llwybrau drwy'r dyfn- derau llaith. Ac yn ddiweddaf, crewyd dyn—ei gorph o bridd y ddaear,—ei enaid ar lun a delw Duw ei Greawdwr;— " Lun yr Ion yn llawn rhinwedd, Llawn gwyufyd hyfryd a hedd : Eneidiol briddyn ydyw 0 lain o dir ar lun Duw !" Y mae bodoliaeth a dechreuad yr holl bethau hyn, er mor amrywiol a rhyfeddol ydynt, i'w priodoli i ewylíys yr un Yspryd Holl-alluog a thragywyddol,—"yr un Arglwydd ar bawb." Y mae gweithredoedd natur, yn wahanol i'r eiddo dyn, wedi eu harw^yddnodi â cbymmeriad sy'n siarad am allu, doethineb, a daioni y Duwdod llywyddol. Rhaid i'r esiamplau mwyaf ardderchog o gelíyddyd dyn, er yr holl ddiwygiad- au a gwelliadau a rodd yr oesau ar- nynt, ildio i ddarfod yn y diwedd. Rhaid i'r peirianau cywreiniafa ddy- feisiwyd eriôed, ac a ddyfeisir byth gan law gelfydd dyn, falurio a syrthio dan law amser. Ond nid yw felly