Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD CYFBES NEWYDD. Rhif. 8. AWST, 1853. Cyf. III. ^möíiŵöan gng^gldb iEgtogsgìiìiíaEtî) ac Ynumllcmaetf), Eglicyswr.— Wel, fy nghyCaill, mi glywaf fod eich gweinidog yn myned i'ch gadael. Yr oeddwn yn meddwl ei fod yn cael ei gynnal yn gysurus rhwng y siop a'r capel, a'ch bod yn hynod gyttun â'ch gilydd. Beth yw yr achos ? Ymneillduwr. — Gwir a ddywed'soch, bob gair. Ond, yn ddistaw rhyngom ni ein dau, mae tippyn o anghydfod wedi bod yn ddiweddar rhyngddo ef a rhai o'r aelodau, o achos eu bod yn prynu yn ei siop, ac yn peidio talu iddo, a chyd â hynny, mae yn cael ychwaneg o gyflog yn Saron, a thyna y prif achos ei fod yn ein gadael ni. E. Yr ydych yn fy synnu yn fawr, ac yntau yn pregethu cymmaint yn erbyn ariangarwch, yn enwedig yng Ngweini- dogion yr Eglwys! Y. Mae hynny yn ddigon gwir. Clyw- ais ef yn ddiweddar yn ei rhoi hi yn iawn iddynt: a dywedodd mai " Addolwỳr Mammon " ydynt oll. Ond yn wir, fy nghyfaill, wyddoch chwi beth ? os caiff y pregethwŷr yma ddigon o arian, bydd pob peth o'r goreu, a diammeu gennyf yr aent à'r degwm pe gallent. Mi glyw- ais fod Mr.------yn myned o Bethel, a'i fod yn myned i Hebron, ac yn cael mlary braf yno. Yr oedd un o langciau yr ysgol wedi addaw myn'd yn ei le, ond cafodd yntau le gwell, ac o'i ran ef caiff capel Bethel fod heb un gweinidog. E. Mae llangciau yr ysgol yn hynod ddign'f. Cyn iddynt fyned i'r ysgol, gwnant edrychiad rhith-grefyddol, tòn hir, ddynwaredol, a dywediadau mawr- ion, doctoraidd; ac o herwydd hynny, meddylir mai hwy yw y dynion mwyaf duwiol a thaientog yn y gymmydogaeth, Yna bydd helynt fawr am eu danfon i'r athrofa. Ac ar ol eu haddysgu ychydig ar gost y wlad, ymgodant gymmaint fel mai braidd y siaradant â'u cyfeiUion blaenorol—yn enwedig, os byddant yng nghwmni rhyw rai o'u huwchraddolion. Y. Mae gormod o wirionedd yn yr hyn a ddywedasoch. Yr wyf fi yn gor- fod cyfaddef fod yr Offeiriaid, er eu bod wedi cael llawer gwell dygiad i fynu, yn llawer rnwy gostyngedig nâg yw ein gweinidogion ni. Edrychwch ar Offeir- iad y plwyf hwn fel enghraifft: ni chaiff hyd yn oed y cardottyn gwaelaf ddim ei bassio heb iddo wneud ry w sylw o hono. Mae mor ofalus, ie, yn fwy gofalus, am ymweled â'r tlodion nâg â'r cyfoethog- ion. Mewn gair, mae yn gwneuthur ei hun yn bob peth i bawb. Ond am ein gweinidog ni, braidd yr adwaena dlodio* ei gaj>el. Tâl ymweliad mynych â chyf- oethogion ei gynnulleidfa, ond ni chyrch i dai y tlodion yn fynychach nâ dyn o'r lleuad. Mae yn alar mawr gennyf fy mod yn gorfod cyfaddef y pethau hyn. oud ni's gallaf eu gwadu, ac nid yw wiw eu celu. Ond nid fel hyn yr oedd ein hen weinidogion gynt. E. Felly ynte, mae eich gweinidogion chwi yn gwaethygu yn lle gwella—yn myned yn fwy llygredig yn Ue diwygio, Ond mae yn hoff gennyf eich hyspysa