Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD. CYFEES NEWYDD. Rhif. ö. MAI, 1853. Ctf. III. ITtr îEgltoga gu gr Etoertrîrou* Tra y míie gelynion yr Eglwys yn croch floeddio, " Dinoethwch, di- noethwch hi hyd ei sylfaen," y mae yn hyfrydwch mawr i bob un o'i hewyhyswŷr da sylwi ar ei hym- drechion diflino dros achos y Gwar- edwr a lleshâd pechaduriaid yn yr oes adfywiol hon, ynghýd â'r llwydd- iant mawr sydd yn coroni ei llafur. Y mae yr Eglwysi a'r cynnulleidfa- oedd newyddion, a welir braidd ym mhob rhau o'r wlad, yn brofion an- wadadwy, nad yw hi yn segur yng Nghymru a Lloegr; ond yr hyn sy yn tynnu sylw neillduol yn bresen- nol yw ei Uwyddiant yn yr Iwerdd- on. Yughanol y gaddug o dywyll- wch pabyddol a orchuddiai y wlad hon, fe dywynodd y Goleuni nefol o'r diwedd mor eglur a disglaer, fel y gall Angylion yn y nef, a Saint ar y ddaear, gyduno i ganu, " Hale- liwia," o'i blegid. Oddeutu saith mlynedd yn ol, yr oedd cyflwr yr Iwerddon yn druenus i'r eithaf: yr oedd y wlad yn llawn o goel-grefydd, eilun-addoliaeth, ac anwybodaeth, o'r fath waethaf. Yr oedd y bobl dan awdurdod gaeth- wasaidd y Pab, ac yn ol ei orchy- myn liosgent Air Duw, a defnydd- ient bob math o ffol-bethau wrth gyflawni defosiwn, megis wafers sanctaidd, olew, canhwyllau, poer- edd, croesau, darluniau, &c. Yr oedd y wlad yn llawn o ddiogi, meddwdod, llofruddiaeth, torri y Sabbath, a phob math o annuwiol- deb a drygioni. Ond yn awr y mae pethau yn cymewid i raddau mawr. Yn y flywddyn 1846, fe ymgyfar- fyddodd nifer o gyfeillion yr Iwerdd- on i ymgynghori ynghylch y modd- ion goreu iddychwelyd y Pabyddion, a'r canlyniad fu ffurfiad " Y Gym- deithas Genhadol Eglwysig Wydd- elig," dan ddylanwad yr hon y mae erbyn heddyw oddeutu 40,000 wedi ymwrthod â Phabyddiaeth ! Y mae gan y gymdeithas hon yn bresennol 334 o Genhadon, y rhai a bregeth- ant egwyddorion y Grefydd Bro- testanaidd, mewn ychwaneg nâ 400 o bwlpudau, ac mewn 27, allan o 32, o siroedd yr Iwerddon. Mewn un ardal,panddechreuwyd y gwaith, bum' mlynedd yn ol, nid. oedd ond 400 o Brotestaniaid; yn awr, y mae yno mewn ychwanegiad, o bump i chwe' mil o ddychweledigion, tra y mae oddeutu chwe' mil o blant yn yr ysgolion. Yn y rhan orllewinol o swydd Galway, y mae wyth o Eg- Iwysi newyddion ar gael eu hagor er gwasanaeth y dychweledigion: etto nid ydynt agos yn ddigon i'w cynnwys. Nid oedd ond dau Offeir- iad Protestanaidd yn yr ardal hon amser yn ol, eithr yn awr y mae yno ddeunaw. Yn Dublin hefyd, prif ddinas yr Iwerddon, gweithia y Cenhadon yu neülduol egniol, ac mae yr effaith mor fawr, fel' ag y cyfaddefodd un