Skip to main content

YR EGLWYSYDD. CYFRES NEWYDD. Rhif. 4. EBRILL, 1853. Cyf. III. Gaib Duw byth yw y gwir di ball,—(iach rad) Ni chredaf i arall; Gair Duw egyr y deall, Gair Duw rydd olwg i'r dall. GüTTN PBBI8. Wrth ddarllen y llyfr hynod hwn- nw, Uncle Tom's Cabin, neu Gaban F' Ewyrth*! Twm, cawsom hyfryd- wch mawr drwy ganfod y cysur a'r diddanwch yr oedd Gair Duw yn ei weinyddu i'r hen Ewythr Twm yn ei^ gyflwr caethwasaidd, yr hyn, gyd â'r ífaith, mai hon yw blwydd- yn Jubili y Gymdeithas Fiblaidd, a'n cymhellodd i osod o flaen ein darllenwýr caredig rai o'n hystyr- iaethau ein hunain ar Werthfawr- owgrwydd Gair Duw, dan obeithio y bydd i Yspryd Duw grëu awydd ynom i wneud gwell defnydd o'r Ysgrythyr Lân rhagllaw. Y mae y Bibl yn werthfawr yn ei gyssylltiad â llênyddiaeth y byd. Tybia rhai nad ydyw yn ddim am- gen nâ rhyw lyfr distadl, wedi ei fwriadu i gadw meddyliau y dos- parth mwyaf ofer-goelus mewn gweithrediad i ffurfio iddynt eu hunain ddychymmygion am le gwell nâ'r byd hwn, ac nad yw yn gym- mwys mewn un modd i'w osod o flaen dynion o feddyliau annibynol a dysgedig. Ond prawf yw hyn fod y cyfryw haerwŷr naill ai yn gwbl anwybodus mewn perthynas i gynnwysiad y Bibl, neu ynte eu bod wedi eu Uenwi â rhagfarn yu ei erbyn. Pe yr olrheiniem holl ysgrifeniadau y Groegiaid, y Rhuf- einiaid a'r Brythoniaid—holl Phi- losophyddion a Dysgedigion y byd, ni chanfyddem gymmaint ag un gyfrol a ddaliai ei chydmharu fel llyfr llènyddol â'r Bibl. Ynddo y cofnodir yr hanesion mwyaf rhy- feddol, y rhai afuasentyn orchudd- iedig mewn anghof tragywyddol oni bai eu dadguddio yn y Bibl, megis creadigaeth y byd—gwreidd- yn, cwymp, ac adferiad dynolryw— dwfry diluw, &c. Y mae yr hanesion hyn o werth ammhrisiadwy mewn llènyddiaeth, heb son am y dylanwad moesol y maent yn eu cael ar y byd. Y mae yn y Bibl destunau i gyfarfod â phob math o chwaeth lênyddol. Os yw un yn hoff o hanesyddiaeth, yma y ceir hanesion am bethau nad es- gorodd amser na chynt na chwedyn ar eu cyffelyb mewn arucheledd a rhyfeddod. Os yw arall yn hoff o ar- dduniant darfelydd a barddoniaeth, yma y ceir meddyliau ag yr oedd yn rhaid cael dynion, dan ddylan- wad Yspryd Duw, i'w gweithio allan. Ac os oes un arall yn hoff o wersi moesol, yma y ceir gwersi, esiamplau, a thraethodau, na lwydd- odd holl ddysgedigion Athen ei hun eriôed eu hefelychu. Saif enwogrwydd hanesyddiaethau Mos-