Skip to main content

YR EGLWYSYDD GYFRES NEWYDD. Rhif. 11. TACHWEDÜ, 1852. Cyf. II. &d)ostott ŵtŵtoírotí* Melldith ein gwlad yw Meddw- dod ! Y mae yn druenus—'íe, yn ddychrynllyd i íeddwl pa faint a dreulir ym Mrydain Fawr am ddi- odydd meddwol. Dywedir fod deng miliwn a thriugain o bunnau yn cael eu gwario yn íîynyddol yn y Deyrnas Gyfunol am ddiodydd, a saith miliwn a hanuer am tobacco a snisin, yr hyn sydd yn fwy o bum' miliwn o bunnau nâg a dalai lôg y ddyled wladol, a holl gostau y Llyw- odraeth gartref a thramor 1 Wrth syn-fyfyrio ar y traul maẅr hwn, ac ar y canlyniadau gresynus sydd yn ei ddilyn, yn is-raddiad ein cyd- ddynion, trueni teuluaidd, a diuystr eneidiau, dechreuasom ymofyn, pa beth yw yr achos o hyn ? ac, wrth ystyried, cawsom ei fod yn tarddu nid oddi ar un achos yn unig, ond oddi ar amrywiol achosion, a bod gwraidd y drwg wedi ymledu mewn llawer modd trwy ein gwahanol ar- ferion cymdeithasol. Mae amser llawenydd ac amser tristwch, dech- reuad gorchwyl a diwedd gorchwyl, yn cael eu gwneuthur yn achlysur- on i yfed i ormodedd. Yngolwg Uaweroedd nid oes dim digrifwch lle nad oes yfed, na dim mwyniaut lle nad oes meddwdod ! Yr oeddym y diwrnod o'r blaen yn sefyll ar ochr cledr-íFordd, ar hyd yr hon yr oedd y Frenhines i ddyfod heibio, gan ddisgwyl, yng nghŷd â llawer eraill, am yr hyfryd- wch o weled ei Mawrhydi. Mewn maes cyferbyn â ni, ar yr ochr arall i'r ffordd, yr oedd torf yn sefyll gyd â'r un ddiben, fel deiliaid ffyddlon yn barod i groesawu eu Brenhines, a dangos pob parch ac anrhydedd iddi ar ei mynediad trwy ein gwlad. Yr oedd y rhan fwyaf o honyut yn weithwýr, wedi ymgynnull ar yr achlysur o'r gwahanol weithfäoedd gerllaw, ac yr oeddynt oll yn edrych yn llawen ac yn siriol. Ond yn íuan gwelwn farilau o gwrw yn cael eu dwyn i'r maes, wedi eu darparu, mae'n debyg, gan ryw rai a dybient nad oedd dim difyrrwch lle nad oedd diod. Ac nid hir y bu cyn y gwelwyd y sirioldeb yn rhoi lle i ddigter, a chenfigen, a dialedd;—a daccw hi yn frwydr wyllt trwy'r dorf, a holl dymherau gwaethaf eu natur wedi eu cyffroi! Yr oedd yn ofidus gweled y cyfnewidiad a gym- merodd le, a ffyrnigrwydd rhai o lionynt yn baeddu eu gilydd, tra yr oedd y lleill yn eu hannog ymlaen ac yn eu ffyrnigo yn saith waeth ! Ac nid heb lawer o ymdrech a thrafferth y llwyddwyd i'w tawelu ac i roi terfyn ar yr ymladd. Ond beth a achosodd y cwbl ? Nid dy- fodiad y Frenhines, ond bod dynion yn methu llawenhâu ar yr achlysur heb yfed i ormodedd, a bod rhai, ag oeddynt eu hunaiu, fe allai, yn gymmedrol, yn rhoddi profedigaeth ar ffordd eraill na fedrent ymgadw