Skip to main content

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 9. MEDI, 1852. Cyf. II. " Kẃ fogf gu roẃ&tol roarto fcltg/' Hanesyn Gwir. Yr oedd A— B— yn fab i rieni cyfoethog; ac yr oedd yr hyn yr wyf am ei adrodd yn eithaf adna- byddus yn y gymmydogaeth lle y bu efe byw a marw. Dechreuodd fasnach drosto ei hun pan yn ieuangc, a dangosai gryn egni a chyfrwysdra meddwl. Ond yr oedd heb Grefydd i'w dd'io- gelu yn nhymmor peryglus ieuengc- tid; ac yn fuan fe ddaeth i fod, yn ol iaith y byd, yn wr ëofh a rhwydd- galon, yn cynnyddu mewn poblog- rwydd a golud. Diystyrai gynghor- ion crefyddol ac awdurdod y Bibl, ac ystyrid ef yn abl i orchfygu un- rhyw grediniwr Crist'nogol mewn dadl. Bu unwaith yn wr ieuangc gobeithiol; ond yr oedd ei fuchedd yn eglurhâd ofnadwy o eiriau'r Ys- grythyr: " Calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni, ac ynfyd- rwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw;" ac yr oedd ei ddiwedd yn olygfa lawn o ddychryn. Oddeutu blwyddyn cyn ei farw- olaeth, ac nid mwy nâ phum mlynedd yn ol, yr oedd A— B— yn marchogaeth gyd â chyfaill myn- wesol, pan gymmerodd yr ymddi- ddan canlynol le. Yr oedd y cyfaill hwn, fel y tystia yn awr, y pryd hynny yn teimlo yn ddwys wirion- edd Crefydd; ond, er mwyn cael ei gysuro yn ei anedifeirwch gan an- ífyddiaeth ei gyfaill mwy deallus ac anystyriol, neu am ryw achos arall, dymunai gael gwybod yn eglur farn B— am Grefydd. Felly, ar ol peth petrusder, dechreuodd gan ddy- wedyd:— " B—, yr ydych chwi a minnau wedi bod ílawer gyd â'n gilydd, ac y mae gennym hyder, mi goeliaf, y naill yn y ìlall fel cyfeillion. Yr ydym wedi ymddiddan yn rhwydd ar bob testun braidd; ond y mae yna un na siaradasom am dano eriôed yn ddifrifol. Pwngc ydyw ag sydd wedi fy mlino yn hir; ac mi ddymunwn wybod beth mewn gwirionedd yw eich meddwl chwi am dano. Os nad ydych yn dy- muno iddo gael ei wneud yn hys- pys, mi a'i cadwaf i mi fy hun." " O, cewch siwr," oedd yr atteb; " nid oes gennyf wrthwyneb i ddweyd fy meddwl ar ddim." " Wel, ynte," ebe Henry—canys dyna yr enw y galwaf ei gyfaill— " beth yr ydych chwi yn ei feddwl o'r Bibl ? Ai gwir yw ? Ac a oes y fath beth a Chrefydd; ai ydyw y cwbl yn dwyll ?" " Wel, o barth i hynny," ebe B—, " nid oes gennyf fwy o amheuaeth bod Duw, a bod Crefydd yn wirion- edd, ac mai rhaid yw bod yr hyn a eilw Crist'nogion yn grefyddol, er