Skip to main content

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 6. MEHEFIN, 1852. Cyf. II. Ŵfoattf) gr ^öprgfc ŵlan. Yn ein rhifyn diweddaf gwnaethom rai sylwadau arEsgyniad ein Hiach- awdwr, a'r cysur a'r gorfoledd sydd yn deilliaw oddi wrth y ffaith hon i'r bobl. Y ffaith nesaf yn hanes ein prynedigaeth a goffêir yn ol trefn yr Eglwys ydyw disgyniad yr Yspryd Glân ar ddydd y Pentecost. Hwn ydoedd y prawf sicraf fod yr Iesu wedi cyrhaeddyd deheulaw y Mawredd yn y Goruchelder. Yr oedd yr Apostolion a'r disgyblion eraill yn dystion digonol o'i Adgy- fodiad, y rhai a'i gwelsant, ac a fu- ant yn cyd-rhodio ac yn cyd-ym- ddiddan âg Ef ar ol ei gyfodi o feirw. A phan gychwynodd Efe ar ei Esgyniad i'r nef, hwy a'i gwel- sant nes i gwmmwl ei dderbyn Ef allan o'u golwg hwynt, ac i'r ddau angel ymddangos i fynegi iddynt, mai i'r uef yr esgynasai. Ond yr oedd rhaid cael tystiolaeth heblaw hyn, cyn y byddai cyflawn sicrwydd ei fod Ef wedi esgyn at y Tad ac wedi cael ei groesawu ganddo; a hyn a roddwyd yn nhywalltiad yr Yspryd ar ei ddisgyblion yn unol â'r addewid a roddasai Efe iddynt cyn ei ymadawiad. "Am hynny," meddai Petr, "wedi ei ddyrchafu ef trwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid o'r Yspryd Glân, efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yr awrhon yn ei weled ac yn ei glywed."— Actau ii. 33. Heb dywalltiad yr Yspryd, buasai nid yn unig y dyst- iolaeth o'i esgyniad yn fyr o sicr- wydd, ond hefyd ei waith prynedig- ol yn ammherffaith. Yr oedd dyn syrthiedig nid yn unig yn amddifad o bob haeddiant i deilyngu'r nef- oedd, ond hefyd yn amddifad o bob cymmwysder i'w fwyuhâu. Nid di- gon ynte fuasai pwrcasu'r nefoedd iddo heb ddarparu moddion i'w addasu ef i gartrefu yno ; a hyn a wnaethpwyd trwy anfoniad yr Ys- pryd Glân. Trwy waith Crist fe bwrcaswyd i bechadur faddeuant a chyfiawnhâd;—trwy waith yr Ys- pryd fe drefnwyd iddo burdeb a sancteiddrwydd. Y mae o'r pwys mwyaf i ni iawn ddeally naill a'r llall,—gwaith Crist erom ni, a gwaith yr Yspryd ynom. ni,—canys y mae y naill fel y llall yn anhebgorol i'n hiechydwriaeth. Mae achos ofni yn wir bod llawer- oedd, sydd yn addef y naill, yn ddi- ofal am y llall. Ni ddisgwyliant iechydwriaeth ond trwy haeddiant Crist yn unig, ac y maent hefyd yn proffesu credu yn yr Yspryd Glân ; ond er hynny maent yn byw mor ddifeddwl a diymgais am ei ddylan- wadau bywhaol, a phe byddent, fel yr Ephesiaid gynt, heb eriôed gym- maint a chlywed a oes Yspryd Glân ! Y rhai hyn yw y rhai sydd â ffurf o dduwioldeb ganddynt, heb ei rym. Maent yn ofalus, fe allai, ynghylch seremoníau a defodau, a phethau allanol crefydd, ond ni wyddant ddim yn brofiadol am waith