Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD CYFBES NEWYÜJJ. Rhif. ö. MAI, 1852. Cyf. II. Ifëggtttaì? <ttxi*t "Crist bob peth ac ym mhob i peth ;"— dyma gyfan-swm gwir dduwioldeb ! A chan ei fod felly, \ y mae holl drefn a Gwasanaeth ein ; Heglwys yn gyflawn o Grist Ei ; nôd Ef a roddir ar bob aelod wrth ' ei dderbyn i mewn i'r Eglwys.— Ei j Enw Ef sydd yn perarogli ei holl î Weddíau,—a gwahanol rannau ei ; waith prynedigol Ef ydynt yn des- j tunau coffadwriaeth ganddi ar ei ! holl brif-ŵyliau. Er dechreu ein ; blwyddyn Ëglwysig mae rhai o brif I ffeithiau hanes ein Prynedigaeth ' wedi cael eu dwyn ger ein bron | mewn trefn, ac ynghorph y mis pre- j sennol gelwir arnom i goffâu Es- gyniad gogoneddus ein Harglwydd bendigedig i'r nefoedd i gymmeryd meddiant o'r goron abwrcasodd Efe â'i werthfawr Waed, ac i eistedd bellach ar ddeheulaw Duw hyd nes y gosoder ei elynion yn droedfaingc i'w draed. Mae y ffaith hwn yn orlawn o gysur a gorfoledd i'r sawl sydd eiddo Crist, canys hwn oedd coron y cwbl a aeth o'r blaen, yn daugos mai gwir oedd yr hyn oll a ddywedasai Efe, ac mai cymmeradwy oedd yr hyn oll a wnaethai. Gwelwyd Ef unwaith yn ymddiosg o'i ogoniant ac yn rhoddi heibio ei Fawredd, ac yn disgyn i iselderau'r ddaear i gymmeryd arno agwedd gwas a di- oddef a marw er mwyn dyn syrth- iedig : ond yn ei Esgyniad wele Freohm y gogoniant "yn dyfod yn ol i'w lys," wedi buddugoliaethu ar holl nerthoedd y fall, ac wedi gor- phen y gwaith a roddwyd iddo i'w wneuthur! Ar ei ymadawiad Ef, braidd na ddychymmygwn, fod telynau y nef- oedd wedi distewi am y tro, a holl drigolion gwawl wedi sefyll yn syn gan ryfeddu at y fath wyrth o gar- iad anrhaethol, y fath ymddaros- tyngiad anfeidrol ar ran priod Fab y Tad; ond yn awr daccw'r telynau aur yn swnio yn bereiddiach nâg eriôed âg anthem newydd, gan groesawu Tywysog ein hiachawdwr- iaeth i eistedd ar Orsedd ei ogon- iant! Mae esgyniad Crist yn destun gorfoledd i'w bobl, nid yn unig o herwydd ei fuddugoliaeth Ef, ond hefyd o herwydd mai ar eu rhan hwrj y buddugoliaethodd Efe ac yr esgynodd fry. Efe a aeth i mewn i'w ogoniant fel eu Cynnrychiolydd hwy, ac a gjmmerodd feddiant ary nefoedd megis ar eu rhan hwy. " Yr wyf fi yn myned," meddai wrth ei ddisgyblion, " i barottoi lle i chwi." Mae bod Efe yno yn sicr- hâu y cânt hwythau ddyfod yno yn. y man. " Byw wyf fi," meddai Iesu, " a byw fyddwch chwithau hefyd."