Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD OYFRES NEWYIH). Rhif. 4. EBRILL, 1852, Cyf. n. Ŵtotrtottttilí. Nid oes dim yn fwy gwerthfawr, nac yn fwy pwysig i bawb, ymhob man, ac ymhob perthynas, nâ gwir- ionedd. Hwn yw un o brif nod- weddiadau y Duwdod. Hyn sydd yn gwneuthur Jehofah yn wrth- ddrych ífydd a hyder, sef ei fod yn " Dduw y gwirionedd." Gyd â chy- feiriad at hyn y dywed Dafydd, " Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymmorth iddo, sydd â'i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw; yr hwn awnaeth nefoedd a daear, y mor a'r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydid," Ps. cxlvi. 5, 6. Heb ei wirionedd—gyda pharch y dy wed- wn—ni fuasai holl briodoliaethau eraill Jehofah, er mor anfeidrol ac mor ogoneddus y maent, ddim yn ddigonol fel sail hyder i'w greadur. Canys heb hyn, er llunio y drefn mwyaf grasol gan ei ddoethineb, ni's gallem fod yn sicr y cwblhâid hi. Heb hyn, gallasai cariad Dwy- fol addaw y pethau mwyaf gogon- eddus, ond ni fyddai dim sicrwydd o'u cyflawniad. Gwirionedd Duw sydd yn sicrhâu y bydd ei ddoeth- ineb yn ddifeth, a'i gyfiawnder yn ddifrycheulyd, a'i sancteiddrwydd yn ddianaf, a'i garíad yn ddiball; ac am hynny hwn yw y golofn ar ba un y mae diogelwch ei bobl yn ym- ddibynu. Felly pan fynnai ein Harglwydd gadarnhâu ffydd ei ddisgyblion, Efe a adgofiai iddynt mor safadwy oedd ei wirionedd.— " Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim." Matt. xxiv. 35. A phan y mae yr Apostol yn mynegi i'r Hebreaid sicrwydd gobaith y Cristion, y mae yn dwyn ar gôf iddynt air y llŵ; " Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gynghor, a gyfryngodd trwy lŵ, fel trwy ddau beth dianwadol, yn y rhai yr oedd yn ammhossibl i Dduw fod yn gelwydd- og, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai a ífoisom i gymmeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen." Heb. vi. 17, 18. Hyn sydd yn gwneud y Bibl mor werthfawr, sef ei fod yn " air y gwir- ionedd." Pe na buasai felly, ni fuasai yn werth ei ddarllen, mwy nâ bank note wedi colli ei garacter. Y mae ei addewidion yn ammhrisiad- wy i'r credadyn am eu bod " oll yn ie ac Amen yng Nghrist Iesu." Maent fel cynnifer o berlau wedi eu casglu o dyfnfôr Dwyfoldeb, ac oll yn cyfrannogi o anghyfnewidiolder a thragywyddoldeb y fynwes a'u magodd. Pelydron ydynt o ddaioni Jehofah, a fuasent wedi diflannu er ys talm, oni bae gwirionedd yr Hwn a'u rhoddodd. Hwn hefyd yw un o brif rwym- au cymdeithas angylion y nef; un o brif seiliau y mur sydd yn cau all- an bob ammheuon ac anghydfod o'u