Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 3. MAWRTH, 1852. Cyf. II. 23ttí) sgìtò gufj ílgíjrtèt Ystyjuwch yn ddwys y pethau sydd yng Nghrist, yr Hwn yr wyf yn er- fyn arnocli heddyw i'w dderbyn. Pe gwyddech chwi beth sydd yng Nghrist, ni wnaech chwi byth ei esgeuluso a'i wrthod fel yr ydych. Mae Dmü yng NghrisL Mae y Duwdod wedi dewis i breswylio yn ei Gnawd; " Duw a amlygwyd yn y cnawd " yw. Duwdod yn preswylio yn y cnawd ydyw Rhyfeddod y byd ; ac íelly wrth dderbyn Crist, yr yd- ych yn derbyn Duw ei Hunan. Mae awdurdod Duw yng Nghrist. "Y mae fy enw ynddo Ef." " Hwn a seliodd Duw Dad : " ganddo Ef y mae y commisiwn, sêl fawr y nef- oedd, i'ch prynu, ac i'ch achub chwi. Y mae pob awdurdod yn y nefoedd a'r ddaear wcdi ei roddi iddo ; y mae Efe yn dyfod attoch chwi yn enw ei üad yn gystal ag yn ei enw ei Hun. Ÿ mae doethineb Duw yng Nghrist; 'íe, ynddo Ef y mae yn guddiedig holl drysorau " doeth- ineb a gwybodaeth." Ni amlygodd doethineb Duw eriôed mo hono ei hun o flaen llygaid angylion a dyn- ion fel y gwnaeth yng Nghrist. Y mae yr angylion yn chwennych edrych i mewn iddo, er hynny nid oes ganddynt hwy ddim o'r fath ran ynghynllun a bwriad y doeth- ineb hwn ym Mhrynedigaeth ag sydd gennych chwi. Y mae cyflaicnder yr Yspryd yng Nghrist; i'e, y mae yn ei lenwi Ef yn y fath fndd a'r na lanwodd ac na lenwa neb arall byth: " nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo Ef yr Yspryd." Y mae gan bawb er- aill eu terfynau a'u mesurau, ond y mae yr Yspryd yng Nghrist heb fesur. O ! mor hardd a dymunol ydyw y dynion hynny, y rhai y mae mesur mawr o'r Yspryd ynddynt! Ond y mae Efe wedi ei enneinio âg Yspryd sancteiddrwj^dd uwchlaw ei frodyr. Pa ras bynnag a geir yn yr holl seintiau, ag sydd yn eu gwneuthur hwy yn ddymunol a hardd,— doethineb yn uu, ffydd yit un arall, amynedd yn y llall,—y maent i gyd yn cyd-gyfarfod yng Nghrist, fel y mae yr afonydd yn y môr. Y mae cyfiawnder Duic yng Nghrist, trwy yr hwn yn unig y dichon i bechadur ëuog gael ei gyi- iawnhâu ger bron Duw. Yr ydym ni yn cael ein " gwneuthur yn gyf- iawnder Duw ynddo Ef." Efe yw yr "Arglwydd ein cyfîawnder," Awdwr ein cyfiawnder, neu yr Av~ glwydd sydd yn ein cyfiawnhâu ni; trwy yr enw hwnnw yr adwaenir ac y gelwir Ef gan ei bobl, ac nid oes yr un enw melusach. Y mae cariad Duw yng Nghfist; 'ie, ymysgaroedd â thyüer-gynhrrf-