Skip to main content

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 2. CHWEFROR, 1852. Cyf. II. V îíttigímîíîí olat Yr hanes a ganlyn a roddwyd gan Weinidog yn New Jersey, yng ngogledd America, am wr ieuange yn ei gynnulleidfa, yr hwn oedd yn saer yn ol ei alwedigaeth, ac yn ddiwyd a moesol yn ei fuchedd, ond a ymroddodd i yfed díodydd cadarn, ac a ddaeth i fod mor nod- edig am segurdod ac annuwioldeb, ag a fuasai cyn hynny am ddiwyd- rwydd a sobrwydd. Tra yn myned ymlaen fel hyn, ac yn esgeuluso gofalu am ei wraig a'i blant, fe freuddwydiodd un noson, ei fod yn dychwelyd oddi wrth un o'i loddest- au meddw, ac ar ol cyrhaeddyd pen y grisiau iddo syrthio o'r pen i'r gwaelod, a thorri ei wddf—ond iddo agoryd ei lygaid yn Uffern ! Yno syfrdanwyd ei glustiau â swn bloedd- io ac ysgrechian, megis yr arferai glywed pan yn eistedd ymhlith cwmni'r dafarn, ac yr oedd y fan wedi ei llenwi â dynion o bob cen- edl, a llwyth, ac iaith, a phobl;— pawb yn ymddangos yn llawn difyr- rwch, a phob un yn bloeddio am yr uchaf, dros eu cwppannau, y rhai a lenwid yn helaeth gan y Uywydd. Trodd y gwr ieuangc at hwn ac a ddywedodd, " Y fath gelwyddau cy- wilyddus maent yn ddweyd wrthym yn y byd arall! Mynnent i ni grédu, mai tân a brwmstan anniffoddadwy sydd yn Uffern, lle y mae pechad- uriaid yn cael eu llosgi am dragy- wyddoldeb; ond yma nid oes dim ond mwyniant a difyrrwch. Medd- yliwn y leiciwn i y fath le a hwn yn burion."—Prin yr oedd y geiriau dros ei wëfusau, pan yn ddisym- mwth daccw bob llygad yn syllu ar- no yn y modd mwyaf arswydus, megis i wadu ei eiriau ef, a chan gyfodi oddi ar eu heistedd, agorodd pob un o honynt ei fantell, ag oedd o'r blaen wedieu cuddio hwy o'i ol- wg ef, ac a ddangosodd iddo gorph o dân byw, o goryn y pen hyd wadn y troed ! Wrth weled yr olygfa ofnadwy hon, aeth yn welw ac yn fud gan arswyd a braw; yr oedd megis pe byddai ei enaid yn marw ynddo, ac fe attolygodd ar y llywydd i adael iddo dd'iangc am ei einioes. " Na, na," attebai 'r llywydd, "nid oes dim goliyngdod o'r lle yma; yr wyt ti yn gweled miloedd yn dyfod i mewn, ond neb yn myned allan." " Ond," ebai y gwr ieuangc, " pe buaswn yn gwybod pa fath le dych- rynllyd yw hwn, buaswn wedi treul- io fy mywyd yn wahanol, ac ni ddaethwn byth i'r lle poenus hwn— yr wyf yn attolygu arnoch fy ngoll- wng i allan ar yr ammod a fynnwch." " Wel," ebai y llywydd, " mi a'th ollyngaf ar un ammod, sef, bod i ti ddychwelyd yma flwyddyn i hedd- yw." "Gwnaf," ebai yntau, gan ffoi o bwll dinystr; ac ar hyn fe ddeffrôdd o'i freuddwyd dvchryn- llyd.