Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD. OWTRES ITBWTDI). Rhif. 12. RHAGFYR, 1851. Cyp. I. &u%îtfrta*tî). Pan yn edrych ar ryfeddodau An- ian, ae ehangder y Greadigaeth, ac yn myfyrio ar y mawredd^a'r doeth- ineb, a'r daioni sydd yn amlwg yn y cwbl, gallem feddwl, na's gellid cael un creadur rhesymmol, a chan- ddo gynheddfau i ddeall ac amgyff- red y pethau hyn, yrhwn a ammheu- ai fod Duw uwchben, yr Hwn a wnaeth, ac sydd yn cynnal, y cwbl. Mewn perthynas i bethau llai eu pwys, ni ellir cael neb mor ynfyd. Ymhíith y myrddiynau a fu yn y palas gwydr yn Llundain, ac a wel- sant y gwahanol beiriannau a ddau- goswyd yno, buasai yn ammhossibl cael neb, a ddywedai am hyd yn oed y peiriant mwyaf distadl yno, fod hwn wedi dyfod i fodoliaeth heb wneuthurwr !—bod ei wabanol ran- nau wedi dyfod at eu gilydd ar ddamwain, ac mai damwain yn un- ig a ddygodd y peiriant i'r palas ! Pe cawsid neb mor ynfyd a dywed- yd hyn am hyd yn oed y peirian- waith Ueiaf, buasai y myrddiynau o'i amgylch yn ei wawdio, neu yn gresynu drosto fel un hollol disyn- wyr. Ac etto gellir cael rhai, ar ol edrych ar beirianwaith Anian, yn orlawn o ryfeddodau, a'r Ueiaf o honynt yn anfeidrol mwy nâ dim a fedr dyn ei wneuthur, a haerant fod y cwbl wedi dyfod i fodoliaeth heb Wneuthurwr, ac yn parhâu mewn bod heb Gynhaliwr ! " Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, nid oes un Duw!" Mae y Cristion yn canfod Duw ymhob man ac ymhob peth ; " lor yn y fellten dân— Duw Ior yn llais y daran;" Duw yn yr haul sy'n ymlawen- hâu megis cawr i redeg gyrfa, a Duw yn y blodeuyn sy'n ymagor i dderbyn ei belydrau disglaer; Duw yn y cwmmwl llwythog, sy'n ym- droi yn ol ei ewyllys Ef, a Duw yn yr eginyn îr a faethir gan ei fendith. Ond tramae holl feusydd Anian yn ymddangos fel hyn i lygaid y Crist- ion yn Uawn o Dduw—tra mae hwn yn canfod gwaith ei fysedd Ef yn y lloer a'r ser, ac ôl ei lwybrau yn y greadigaeth isod,—mae'r Anffydd- iwr mor ynfyd ac mor ddall ag i ddywedyd yn ei galon "Nid oes un Duw !" " Nid Duw, ond dam- wain," medd ef, " a wnaeth y cwbl! Digwyddasant fod, ac am hynny y maent! " Damwain a osododd y bydoedd disglaer mewn trefn yn y ffurfafen, ac a roddodd ddeddf i nef y nefoedd ! Damwain a ordeiniodd y tymhorau! Damwain, y peth mwyaf afreolaidd o bob peth, a ddygodd i fodolíaeth y bydyssawd oll sydd mor gyflawn%o reol a threm! Llawn mor rhesymmol fyddai dy- wedyd, mai y tywyllwch a greodd y goleuni, neu y rhew a greodd y tân, neu annhrefn a greodd drefh! Ac