Skip to main content

7T7Ç1 CYFRES NEWYDD. Rhif. 11. TACHWEDD, 1851. Cyf. I. Parhâd o du-dal. 1 ] 0. Heblaw tystiolaeth yr Eglwys Iudd- ewig am y peth, gwelwn brawf cad- arn o'r hyn a ddywedwyd, os ed- rychwn i mewn i~r Bibl ei hun. Y mae dyfodiad yr Arglwydd Iesu Grist yn y cnawd yn rhannu oes y byd *yn ddwy rau; sef, y gyntaf, yr hon oedd cyn ei ddyfodiad Ef, a'r ail, yr hon oedd ar ol ei ddyfodiad. Yn y naill fe'i disgwylid Ef; yn y llall fe'i datguddiwyd Ef. Ý mae holl lyfrau yr Hen Destament gan hynny yn perthyn i'r rhan flaenaf yn yr hon yr addawyd Ef, ac y rhag- fynegwyd am dano gan Moses a'r Prophwydi; a holl lyfrau y Testa- ment Newydd yn perthyn i'r rhan olaf, yn yr hon y mynegir yn eglur, gan yr Efengylwýr a'r Apostolion, winonedd a chyfiawniad yr hyn olí a rag-ddywedwyd am dano gan.y Prophwydi. Yn awr y mae llyfr Malachi, yr olaf o Brophwydi yr Hen Destament, yn terfynu gyd â phrophwydoliaeth am Ioan Fedydd- iwr dan yr enw Elias. Gyd â chyf- eiriad at hyn dywed ein Harglwydd, " Yr holl brophwydi a'r gyfraith a brophwydasant hyd Ioan. Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Elias yr hwn oedd ar ddyfod, " wrth hyn yn profi mai at Ioan yr oedd pro- phwydoìiaeth Malachi yn cyfeirio, ac na chyfododd un prophwyd rhwng Malachi ac Ioan. Ac os ced- wir mewn golwg, mai yr enw a rodd- ai yr Iuddewon ar yr Hen Des- tament oedd " y gyfraith a'r pro- phwydi," yna mae geiriau Crist yr un fath a phe dywedasai, " Yr oedd yr holl Hen Destament yn cyrraedd hyd y brophwydoliaeth am Ioan, a dim ymhellach." Heblaw hyn, os edrychwn i ddechreu Efengyl Marc, gwelwn brawf cadarnach fyth o'r hyn a ddywedwyd, canys y mae efe yn dyfynu prophwydoiiaeth 'Mala- chi, ac yn ei chyssylltu â " dechreu Efengyl Iesu Grist, " fel hyn megis yn cylymmu y ddau Destament ynghýd. "Dechreu efengyl Iesu Grist, fab Duw, fel yr ysgrifenwyd yn y prophwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb", yr hwn a barottoa äy fíbrdd o'th flaen." Ymhellach,—megis yr oedd yr Hen Destament yn terfynu gyd â rhag-fynegiad am ddyfodiad cyntaf Crist yn y cnawd, feliy y mae y Testament Ne^yydd yn diweddu gyd â rhag-fynegiad am ei ail-ddy- fodiad Ef mewn gogoniant. " Wele, yr wyf yn dyfod ar frys; a'm gwobr sydd gyd â mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef." Ac yna y mae Efe megis yn rhwymo y dystiolaeth â'r diwedd-glo ofnadwy hwn:—" Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd atto ef y pläau sy wedi eu hysgrifenu yn y llyfr hwn : Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrtli