Skip to main content

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 10. HYDREF, 1851. Cyf. I. ffi* 3?3ffrgfl>2* &*«* Un o roddion gwerthfawroccaf Duw i ddyn ydyw y datguddiad ysprydol- edig hwnnw o'i ewyllys a gynnwysir yn ei Air Sanctaidd. " Chwiliwch yr Ysgrythyrau," medd«iew. Hiach- awdwr bendigedig, " canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragywyddol: a hwynt-hwy yw y íhai sydd yn tystiolaethu am danaf fi."—Ioan v. 39. A phan mae St. Paul yn mynegi rhagor- freintiau yr Iuddew, y mae yn enwi hwn fel y pennaf. " Pa ragoriaeth, medd efe, " sydd i'r Iuddew ? ...... Llawer ym mhob rhyw fodd; yn gyntaf, o herwydd dar'fod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw." Rhuf. iii. 1,2. Pa le bynnag y mae y gair hwn yn cael ei ddarllen a'i ddilyn, yno y mae goleuni ysprydol a duwioldeb yn ffynnu; a pha le bynnag y cedwir hwn o'r golwg, yno y mae anwybodaeth ysprydol ac an- nuwioldeb. O ganlyniad y mae hwn wedi bod yn wrthddrych ym- osodiadau gelynion gwir Grefydd ymhob oes. Felly yn yr oes bres- ennol, gwelir Anffyddiaeth a Dëist- iaeth ar un 11 aw, a Phabyddiaeth a choel-grefydd ar y llaw arall yn ceisio ynnill tir i'w cyfeiliornadau dinystriol trwy leihâu awdurdod y gair hwn, a gosod rheol arall i fynu yn ei le fel cyfarwyddwr ein ffydd. Y mae pleidwýr pob un yn gwybod yn dda, ond cael y Bibl oddi ar y ffordd, mai hawdd fydd wedi 'n caei derbyniad rhwydd i'w gau hegwydd- orion. Mae hyn ynte yn dangos y mawr angenrheidrwydd o ddal ein gafael yn y gair hwn, ac yn yr eg- wyddor bwysig honno o eiddo 'n Heglwys, " Bod yr Ysgrythyr Lân yn cynnwys pob peth angenrheidiol i iachawdwriaeth, fel nad ydys yn gofyn bod i neb gredu beth ì)ynnag na ddarlleuir ynddi, neu na ellir ei brofi wrthi, megis Erthygl o Ffydd, na'i fod yn angenrhaid i iachawd- wriaeth."—Erthygl vi. Gosodwn gan hynny rai ystyr- iaethau byrion ger bron ein dar- llenwŷr mewn perthynas i'r pwngc hwn, fel y byddont barod i atteb i bob un a ofyno ganddynt reswm am y gobaith sydd ynddynt. Y peth cyntaf i'w benderfynu yw, pa lyfrau sydd yn cyfansoddi yr hyn a elwir "Yr Ysgrythyr Lân?"—Dysgwn hyn oddi wrth y rhan arall o'r Er- thygl uchod, lle y gwelwn fod yr Eglwys yn deall " dan enw yr Ys- grythyr Lân y Cyfryw Lyfrau Can- onaidd o'r Hen Destament a'r Ne- wydd, a'r nabu eriôed ddim ammeu yn yr Eglwys am eu hawdurdod."