Skip to main content

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 8. AWST, 1851. Cyf. I. T gtoaítf) <&tnỳüìt*l. " Chwi yw goleuni y byd " nieddai ein Harglwydd wrth ei ddisgyblion; ac mewn man arall, " Chwi a dder- byniwch nerth yr Yspryd Glân wedi y delo Efe arnoch, ac a fydd- wch dystion i mi yn Jerusalein, ac yn holl Judea, a Samaria, a hyd eithaf ỳ ddaear. " Gwnaethpwyd y mynegiad blaenaf ar ddechreu ei weinidogaeth yn ei bregeth ar y mynydd; a'r olaf ar fynydd yr Olewŷdd ychydig cyn ei esgyniad i'r nefoedd; ac y mae y naill yn es- poniad ar y llall, ac yn rhoddi i ni olwg ardderchog ar sefyllfa a dy- ledswydd y Cristion a'r Eglwys Grist'nogol mewn perthynas i Grist a'r byd. Gosodir Eglwys Dduw o'n blaen yma fel yr hon a fwriadwyd i ddwyn tystiolaeth yngŵydd y byd i Arglwydd y gogoniant!—i adlewyr- chu pelyderau Haul Cyfiawnder, a'u gwasgaru yma a thraw, nes ymlid y tywyllwch yn llwyr oddi ar wyneb y ddaear ! Hon yw sefyllfa yr Eglwys yn y byd, a hwn yw diben ei galw- edigaeth hi: ac, os felly, mae'n amlwg nad all hi ddisgwyl bendith ei Harglwydd arni, ond pan yn llenwi y sefyllfa hon, ac yn atteb y diben hwn. Yn unol â hyn, os edrychwn i mewn i hanes Eglwys Crist o'r de- chreuad, ni a welwn fod y cyssyllt- iad agosaf rhwng ei bywyd ysprydol a'i llafur cenhadol, a bod derbyniad "nerth yr Yspryd Glân " yn cael ei ddilyn bob amser gan awydd i fod " yn dystion i Grist hyd eithaf y ddaear. " O ganlyniad gellir ed- rych ar lafur unrhyw Eglwys yn y gwaith o ledaenu'r Efeugyl, os byddo yn gyssylltiedig âg athraw- iaeth iachus, fel arwydd a phrawf o fywyd ysprydol yr Eglwys honno. Yn yr olwg hon, gallwn edrych gyd â boddlonrwydd a diolchgarwch ar helaethrwydd llafur Cenhadol eiii Heglwys ein hunain drwy'r byd. Er nad yw etto yr hyn a ddylai fod, cyn y bydd yn gyfartal i'n breint- iau ni ac angenrheidiau'r byd, etto y mae wedi lledu yn y fath fodd, ac wedi mwynhâu cymmaint o fendith yr Arglwydd, nes y mae yn destun hyfrydwch a gorfoíedd i bob aelod ffyddlon o'n Heglwys sydd yn dy- muno ehangiad teyrnas Crist ar y ddaear. Dygir gwaith Cenhadol Eglwys Loegr ymlaen yn bennaf trwy gyf- rwng dwy Gymdeithas—sefy Gym- deithas er Lledaenu'r Efengyl, a'r Gymdeithas Genhadol. Mae gan- ddi Gymdeithasau eraill sydd yn llafurio gyd â'r un ddiben, megis y Gymdeithas er dychweliad yr Iudd- ewon, ac eraill; ond y ddwy a en- wyd ydyw ei phrif Gymdeithasau Cenhadol, ac attynt hwy y cyfyng- wn ein sylw yn bresennol. Sefydlwyd y Gymdeithas er lled- aenu'r Efengyl, yn y flwyddyn 1701; ac felly y mae hi wedi parhâu am gant a hanner o flynyddoedd, ac yn y flwyddyn bresennol yn cadw