Skip to main content

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. ô. MAI, 1851. Cyf. I. Win ®ì>txfy ìíros fcetljoîr- Nid oes ond un Aberth, a Hwnnw yn Un anfeidrol, a dâl i bechadur ei ddadleu ger bron gorsedd Duw fel sail gobaith am faddeuant. Oíf- rymwyd aberthau fyrdd dan y gyf- raith ; ond nid allai y rhai hynny dynnu ymaith bechodau, na rhoddi boddlonrwydd i gyfiawnder Dwyfol. Yr oeddynt yn addas, fel cysgodau, i gyfeirio ffydd yr offrymmydd at y Sylwedd mawr, ag oedd i ymddang- os ynghyflawnder yr amser i ddilëu pechodau'r byd; ond ynddynt eu hunain nid oeddynt ond cysgodau vn unig, heb un math o rinwedd i olchi ymaith euogrwydd. Yr oedd yn gofyn bod perthynas agosach rhwng yr aberth â'r hwn a gym- modid drwyddo, nâg a allai fod rhwng anifeiliaid a dynolryw ;—yr oedd rhaid i'r Aberth fod yn gyf- rannog o'n hanian ni—yn asgwrn o'n hasgwrn, ac yn gnawd o'n cnawd ni, fel y gallai yr anian a bechodd ddioddef hefyd y gosp a haeddasid. A thrachefn yr oedd rhaid bod gan yr Aberth hwn y fath haeddiant anfeidrol, ag a ddigonai holl ofynion cyfiawnder Jehofah. A hyn oll a gafwyd yn Aberth Crist. Yr oedd yma berffaith ddyndod ynghýd â pherffaith Dduwdod;— gwendid a marwolder y dyn wedi eu huno â mawredd a bywyd Duw. Ni's gellid gan hynny gael aberth mor gymmwys, na haeddiant mor rinweddol a Hwn. Unwaith yr off- rymmidHwn, nid oedd eisiau abertli dros bechodau mwyacb. Ac nid oedd rhaid offrymmu'r Aberth hwn ond unwaith;—í'el y dywed yr Apostol—*< Nac fel yr oíí'- rymmai ei hun yn fynych......eithr yr awrhon unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe i ddilëu pechod trwy ei aberthu ei hun." —Heb ix. 25, 26. Mae hyn ynte yn hollol groes i athrawiaeth yr Eglwys Babaidd, yr hon a haera, fod ei Hoffeiriaid yn yr Offeren yn aberthu Crist dros y byw a'r meirw. Fel y dywed Erth- ygl ein Heglwys, "Nid yw yr a- berthau hynny ond chwedlau cabl- aidd a siommedigaethau peryglus." Mae ymddygiad Offeiriaid Rhu-