Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDJD. Rhif. 4. EBRILL, 1851. Cyf. I. i£gltegs ŵtst ac ITgltogs &ugí)rtet " Tu allan i'r Eglwys nid oes iach- awdwriaeth, a'r unig wir Eglwys yd- yw fy Eglwys i;" dyma grêd ac ymffrost y Pabydd; ac felly y tros- glwydda bawb, nad ydynt yn aelod- au o'i Eglwys ef, yn grynswth i ddamnedigaeth! Llawer Pabydd dall sydd yn byw ac yn marw â'i holl obaith am dragywyddoldeb wedi ei adeiladu yn unig ar y grêd hon, gan hyderu bod ei enaid yn ddiogel am ei fod yn aelod o'r Eglwys hon- no, sydd, yn ol ei dyb ef, yn dal ag- oriadau 'r nefoedd! Ac etto,, pan ddelom i chwilio sylfeini y tyb hwn wrth oleuni gaír Duw, y fath dwyll a ymddengys y cwbl! Canys, yn gyntaf, hyd yn oed pe buasai Eglwys Rhufain yn wir Eglwys i Grist, ni fuasai undeb ailauol â hon yu sicrhâu iachawdwriaeth ;— "can- ys nid Israel yw pawb a'r sydd o ìsrael;"—ac yn nesaf, mae'n am- lwg, mai nid Eglwys Crist yw hon, ond Eglwys Anghrist. Hwyrach y dywed rhai, fod hyn yn iaith rhy gryf, a'n bod ni yn hyn yn ymddwyn yr un modd a'r Pabydd, ac yn ei drosglwyddo ynt- au i ddamnedigaeth. Ond camsyn- iad yw hyn: o herwydd er gwadu o honom, nad yw Eglwys Bhufain ddim yn wir Eglwys i Grist, nid yw yn dilyn o angenrheidrwydd fod pawb sydd yn perthyn i'r Eglwys honno yn golledìg. Gall ibd Uawer aelod duwiol mewn teulu heb fod y teulu yn Eglwys i Dduw. Yr oedd llawer o wir Israeliaid yn Babilon yn amser y caethglud ; er hynny nid oedd hyn yn gwneuthur Babi- lon, fel dinas, yn ddinas Duw. Yr un modd, fe all fod llawer o wir dduwiolion yng nghaethiwed y Ba- bilon ysprydol, ac etto nid yw hyn yn gwneud hon, fel Eglwys, yn Eg- lwys Crist. " Y wir Eglwys," medd yr Ho- mili, " yw Cynnulleidfa, neu Gym- deithas y ffyddloniäid ac etholedig bobl Dduw, wedî ei hadeiladu ar s'ail yr Apostolion a'r Prophwydi, ac lesu Grist ei Hun yn Ben Congl-faen. Ac y mae iddi bob amser dri o nodau, WTth ba rai yr adnabyddir hi : Athrawiaeth bur ac iachus, — Gweinyddiad y Sacra- mentau yn ol sanctaidd ordinhâd Crist,—ac iawn arfer disgyblaeth eglwysig. Mae y ,portreiad hwn o'r E^glwys yn gyttuuol âg Ysgrythyr- aù Duw, ac hefyd âg athrawiaeth yr hen Dadau, fel na all neb yn gyflawn feio ariio. Bellach os cydmerwch y portrei- ad hwn âg Eglwys Rhufain, nid fel yr ydoedd hi yn y dechreuad, ond fel y mae yn awr, ac y mae wedi bod er ys naw cant o flynyddoedd ac yclwaneg, chwi a ellwch weled yn bawdd fod ei chyflwr hi ,mor bell oddi wrth naturiaeth y wir Eg-