Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD. CYFRES NEWYDD. Rhif. 1. IONAWR, 1851. Cyf. V. eutoa*öía& <&xínt. Y ffaith nodedig a goffhêir yn yr Eglwys ar y dydd cyntaf o'r flwydd- yn ydyw Enwaediad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hyn a gymmerodd le ymhen wyth niwrnod ar ol ei Enedigaeth Ef, megis y dysgwn oddi wrth yr Efengyl a bennodwyd i'r dydd hwn. Gorchymynwyd En- waediad i Abraham ac i'w hâd trwy ddatguddiad pennodol, fel arwydd a sêl y cyfammod a wnaethpwyd rhyngddynt a Duw; a thorrid ymaith bob gwrryw díenwaededig o blith pobl Israel, ac oddi wrth holl freint- iau yr Eglwys Iuddewig. (Genesis xvii. 11, &c.) Heb ymhelaethu ar wahanol ddibenion y ddefod hon yn ei chyssylltiad â phobl Israel, ystyr- iwn yn fyr i ba ddiben ac am ba achos y gwnaeth Duw i'w " wynfyd- edig Fab dderbyn enwaediad." Gyd â golwg ar hyn gellir syjwi, bod en- waediad Crist yn arwydd cyfammod rhyngddo Ef a'i Dad nefol. Trwy hyn y sicrhâwyd mai Efe oedd had addawedig Abraham, yn yr Hwn yr oedd holl genhedloedd y ddaear i gael eu bendithio, ac y byddai ei Ddîoddefaint a'i Farwolàeth Ef yn foddion iachawdwriaeth i'w Gorph dirgeledig, sef yr Eglwys. O'r ochr arall, wrth ymostwng i'r ddefod hon yr oedd y Cyfryngwr yn ymrwymo i gyflawni pob cyfiawnder; yr oedd Efe drwy hyn yn cyhoeddi ar ei ddyfodiad i'r byd, " Wele yr wyf Fi yn dyfod i wneuthur dy Ewyllys di, O Dduw." Felly enwaediad Crist ydoedd ei weithred gyntaf o ufudd-dod ar ol ei Enedigaeth: ac nid y gyntaf yn unig, ond hefyd yn weithred ag oedd yn ei rwymo i gyflawni yr hyn oll oedd i ganlyn. Hyspysir hyn i ni yn y Colect, lle y dywedir, bod Duw wedi gwneuthur i'w " wýnfyd- edig Fab dderbyn yr enwaediad, a bod yn ufudd i'r ddeddf er mwyn dyn." Mae'n amlwg gan hynny ei bod yn gwbl addas i ni goffhâu y weithred hon, o herwydd bod ein hiachawdwriaeth yn ymddibynu ar- ni; nid megis gweithred unigol, ond megis rhan o'r ufudd-dod haeddiannol hwnnw a gyflawnwyd ganddo Ef er ein mwyn ni. Hou oedd y ddolen gyntaf yng nghad- wyn y cyfiawnder hwnnw a orphen- wyd ar y groes. Nid oedd gan Iesu ddim pechod o'i eiddo ei Hun, nac yn wreiddiol nac yn weithredol, ag oedd yn gofyn iawn. Nid oedd gan-