Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 12.] RHAGFYR, 1849. [Cyfrol iii. Enían a'r ^gmmorau. Y mae Anian bob amser yn fawreddig yn ei bwriadau a'i chyulluniau, ond yn ymarbedus yn y cyflawniad o honynt. Gorwychder a symledd yw prií' nodwedd ei gweithred- iadau: canfyddwn o symledd ei deddfau yr effeithiau mwyaf gogoneddus yn cael eu dwyn oddi amgylch: ac y mae yr arddangosiadau mwyaf goruchel yn dwyn oddi amgylch bethau distadl yr olwg arnynt, ond etto yu aunhyall i ddyn eu cyflawni. Oddi ar ychydig o egwyddorion syml y mae yn cynnyrchu yr effeithiau mwyaf annirnadwy; yr hyn sydd yn peri syndod a mawrygiant gostyngedig ym meddwl pob un sydd yn ymbwyllo uwch ben gweithredoedd ancbwiliadwy Ior ! Ond nid oes o'r holl effeithiau sydd yn dilyn deddfau anian olygfa fwy hyfryd a boddhaol i'r efrydydd athronydd- awl nag olyniant dydd a nos, a dychweliad y gwahanol dym- morau. Y mae hyn yn cael ei achosi gau gylchdroadau y cyrph nefol; ac y maent hwythau yn ddarostyngedig i un ddeddf ddigyfnewid, sef deddf pwys a thynniad:—yr haul, y Uoer, y planedau, a'r ser sefydlog, a phob peth mewn anian hefyd, o'r gronyn annisgrifiadwy i'r goleuadau anfesuredig a grogant yn yr eangderau ! Dyma yr egwyddor sydd yn achosi symmudiad, rheol, cydgor, tegwch a phob amrywiaeth sydd yn addurno gweithredoedd creadigaeth. Pan mae yr haul yn ymddangos gyntaf yn y nef, y mae anian oll yn ymlawenhâu ac yn adfywio gan ei bresennoldeb, ac y mae golygfa ysplenydd y bydysawd yn ymagor mewn gogoniant ac ardderchowgrwydd, nes yw pob gwrthddrych o'n hamgylch yn creu meddyl-ddrychau a syniadau o bleser a mawrygiant yn yr enaid. Ac wedi ymdeithio yn ei ysplauder drwy ganol y nef, y mae wedi hynny yn ymguddio o'r golwg, ac y mae golygfa newydd yn ymddangos yr un mor fawrwych a godidog. Yn ebrwydd y mae yr holl wybrennydd yn dry-