Skip to main content

YR EGLWYSYDD. Riiif. 8.] AWST, 1849. [Cyfrol iii. " %M gr &rgIfo2ÌẂ." "Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas, a'r doeth a wêl dy enw:"—felly y dywedodd y prophwyd, pan yr oedd cẁyn rhwng yr Arglwydd a'i bobl Israel. Ac felly y gellir dy- wedyd yn awr, pan ymddengys bod cŵyn rliwng yr Ar- glwydd a Brydain Fawr. Y mae Dnw wedi llefaru wrthym, fel cenedl, lawer gwaith a llawer modd, weithiau mewn iaith addfwyn trugaredd, pryd arall mewn iaith cerydd. Pan yr oedd gwledydd eraill yn cael eu hanrheithio â'r cleddyf ac â'r haint, arbedwyd eìn gwlad ni i raddau mawr, a rhoddwyd i ni íẁynhau tangnefedd a diogelwch. Ond yn ddiwcddar y mae'r Arglwydd wedi dechreu llefaru wrthym mewn llais garwach. Mae ei wialen, a fu er's tro yn hon- gian uwch ben ein gwlad, wedi disgyn ar rai cyrrau o honni,—yr haint, a ymddangosodd megis am gilio draw oddi wrthyin heb braidd gyíí'wrdd â ni, wedi cyrraedd ein hardaloedd, a dechreu ei waith marwol yn ein plith. A pha beth yw hyn, ac o ba ley tarddodd?—Nid damwain mo'no: —"ni ddaw cystudd allan o'r pridd, ac ni fìagura gofid allan o'r ddaear:"—Er mai trwy gyfryngiad achosion natur- iol yr effeithir hyn, etto nid y pethau hyn yw'r achos gwr- eiddiol; y mae yr Hwn sydd yn eu rhoddi ar waith yn pres- wylio frý—" llef yr Arglwydd " ydyut yn llefain ar y ddinas. Efe sydd yn llefaru wrthym drwy y pethau hyn ac yn galw arnom i edifarhau. Ac y mae ei lef yn llefain nid yn unig ar y wlad yn gyff- redinol, ond hefyd ar bob un o drigolion y wlad yn bersonol. Pan fyddo'r Arglwydd yn anfon allan ei lef, y inae yn dy- wedyd wrth bawb y'mhob sefyllfa, o'r brenhin ar yr orsedd hyd at y cardottyn yn ei fwthyn, " Ystyriwch eich ffyrdd:" —a phan fyddo'r Arglwydd fel hyn yn llefaru, y mae yn ddy- ledswydd ar bawb wrando.—" Y doeth a wêl dy enw." Y mae