Skip to main content

Ehif. 6.] MEHEFIN, 1849. [Cyfrol iii. Jìîlaforeìftí mẃîiçítol bgn. Y mae galluoedd nieddyliol dyn yn llawer uweh a gogon- eddusach na'r hyn a elwir yn reddf, ac a arddangosir ym nrywyd yr anifail. Dyma yr hyn a'i dyrchafa goruwch y greadigaeth israddol. Y mae y meddwl, fel llywiawdwr, yn ymbwyllo, ymsynio, ac yn ewyllysio ; ac felly, yn rheoleiddio holl weithrediadau y corph. Fel creadur rhesymmol nis gall dyn weithredu ond trwy gydsyniad y meddwl, yr hwn sydd yn derbyn gwybodaeth, yn deall, yn efrydu, barnu, ac yna yn cydsynio. Er y gallwn ddywedyd fod llawcr o bethau mewn greddf yn ymddangos yn oruwch i reswm, fel pe byddai creaduriaid eraill wedi eu darddonio yn fwy na dyn;—megis Uygaid yr eryr, arogl y cenaw, cyflymder y carw, a nerth y cawrfìl; oud nid yw y pethau hyn ond darbodiaetb o eiddo natur ar gyfer gwahanol angenrheidiau y creaduriaid hyn. Pan y mae y galluoedd hyn yn cyfarfod â holl eisiau y creaduriaid direswm, gorweddant i lawr i gysgu; a phan y mae eu eyrph wedi lluddedu gan amser, gorweddant ar y ddaear i farw, a derfydd pob gweithrediad perthynol i'w natur. Ond pan y dadfeilia y corph dynol, y mae yno ail egwyddor o fywyd yn anadlu am anfarwoldeb. Trig yn y corph tra pery gorachwyliaeth bywyd, yna sym- muda y gogoniant ymaith, a therfyna yr olygfa. Etto ni therfyna y meddwl gogoneddus hwn pan yr ymddettyd gronynau y corph, ond chwardd uwch ben dinystr angau, a blodeua mewn ieuant anfarwol ym myd yr ysprydoedd! Pe meddyliem am odidowgrwydd enaid dyn:—trwy ei alluoedd meddyliol y gall eistedd i lawr, a chasglu yn ei lyfr- gell adgofion yr oesoedd gynt,—yr oll a ddywedwyd ac a ysgrifenwyd er chwanegu ei addysg a'i ddoethineb. Pe ond mewn bwthyn mynyddig yng nghanol gwylltedd, ar odre un o fynyddoedd hen Gymru, gall yr athronydd Cymreig astudio