Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 5.] MAI, 1849. [Cyfrol m. ¥ mm. Gan W. G. Rhinâ, Gwrthddrych hardd iawn yn natur ydyw gwlith; ac nid oes yr un gyffelybiaeth yn eael ei harfer yn ainlach. Cry- bwyllaf am dri chyfeiriad neillduol atto. A. ydych chwi yn coflo y hore o'r hlaen, pan yr oeddym ni yn rhodio allan, y buasai yn ofer i geisio cyfrif gwlith- ddefnynnau disglaer y bore: yr oedd yr haul wedi codi, ac ymddangosai bob diferyn fel gem ddisglaer ar yr harddwch annarluniadwy oedd o'n hamgylch. Meddyliais am y dyrfa na ddichon i neb ei rhifo, ac ymddangosai i mi fel yn esponio ar unwaith y darluniad mawreddus yn Psalm cx.— " Dy bobl a fyddaut ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti." Dywed y dysgedigion Hebreaidd fod y gair "ewyllysgar" yn cael ei arfer yn y radd uchaf;— "mwyaf ewyllysgar" ydyw, a bod y rhan olaf yn lythyr- enol fel hyn, " Dy hiliogaeth fyddaut fel gwlith o groth y wawr." Disglaer a gogoneddus fydd bore adgyfodiad y cyfiawn; yna, pan fydd Haul Cyfìawnder yn llewyrchu ar y gwlith, fe fydd pob diferyn yn disgleirio ac yn ysplenyddu yn ei ddis- I gleirdeb Ef. Ond y mae y gwlith yn cael ei arfer nid yn unig fel hyn, eithr y mae iddo ail ffordd o gyffelybiaeth. Wrth lefaru am ddychweliad caethglud Tsrael: y mae yr Arglwydd yn dywedyd, " B^yddaf fel gwhth i Israel: efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megis Libanus."—Hos. xiv. 5. Y llynedd, ymwelais â synagog fawr yr Iuddewon, yn Dulcës Placc, Llundain, ar ẃyl y Pasg, a tharawyd fì à syndod wrth nifer y gwecìdiau a ofi'rymmid i'r Arglwydd, megis "Tad y gwlith," yn erfyn arno fod megis gwlith i Israel. Gofynais i luddew oedranus yn fy ymyl, beth oedd hyn yn ei feddwl; ac efe a ddywedodd, " Cyffelybiaeth