Skip to main content

Rhif. 11.] TACHWEDD, 1848. [Cyfrol ii. Dgffrprt âbtẃem. Yr ydym i gyd yn gwybod fod tri o'r Efengylwyr yn cyfrif oriau y dydd yn ol dull yr hen Iuddewon, Rhufeiniaid, a Groegiajd; seí' trwy ddeuddeg, yn amrywio o ràn eu hyd yn ol tymhorau y flwyddyn, o godiad hyd faehlud haul; ond y mae rhai beirniaid yn tybied fod St. Ioan yn eu eyfrif yn ol fel y byddent yn eu eyfrif yn Asia Leiaf yn ei ddydd ef, ac fel yr ydym ninnau yn awr, sef o ganol nos hyd ganol dydd. " Y'nghylch y chweched awr ydoedd hi," hynny yw, y chweched wedi canol dydd, yr amser y byddai y gwragedd yn arferoi o fyned allan i dynnu dwfr, yreistedd- odd Iesu o Nazareth wrth flỳnnon Jacob. Yr oedd yn eistedd yn unig, oblegid yr oedd ei ddisgyblion wedi myned i'r ddinas i brynu bwyd. Ymddangosai, ac yn wir yr oedd, yn fiinedig gan ei daith, oblegid y mae yn awr bedair milltir ar ddeg ar hugain i'r gogledd o Jerusalem, o ba le y mae yn dychwelyd ar ol y Pasg, yn y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth, ac y mae ar ei daith gyntaf o Judea, trwy Samaria, i Galilea. Nid yw y Samariaid yn bresennol o fewn ei gommisiwn; nid yw wedi ei anfon yn bersonol attynt hwy; er hynny yr oedd rhyw eithriad o blaid y rhan hon o Samaria ; ai o herwydd harddwch neu sancteiddrwydd y fan ? Yr oedd, ac y mae yn le hardd. Wrth i chwi ddynesu at Sichem o Jerusalem, yr ydych yn myned i ddyffryn sydd yn ymestyn dros dair milltir tu a'r gogledd, i'r gogledd-orllewin, ond y mae mor gul, fel nad yw mewn rhai mannau dros ddau neu dri chant o gamrau o led, oblegid y mae dau ddibyn creigiog yn codi ar bob ochr, yn serth i fynu o'r dyffryn, i oddeutu wyth can troedfedd o uchder; ac yma ac accw y mae ceunentydd bychain yn y rhai y mae olewydd a ffynnonau.