Skip to main content

YR EGLWYSYDD. Rhif. 10.] HYDREF, 1848. [Cyfrol ii. <&xtî$jt$ tottluaûŵ. Nir> yw crefydd y Cristion yn yrnddangos mewn un rnan yn fwy hardd, ac nid yw rnewn un man yn fwy buddiol ac angenrheidiol nag yn ei deulu. Os nad yw ei ganwyll yn goleuo yn ei dŷ, ofer yw ei broffes allanol. Ac nid gofalu am fod yn grefyddol ei hun ydyw'r cwbl o'i ddy- ledswydd; ond megis y penderfynodd Josua gynt, felly y dylai yntau, "Mi am tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd." Mae gan bob penteulu awdurdod ar ei deulu, a dylai ddefn- yddio'r awdurdod hwn, yn anad dim, i'w hyfforddi a'u har- wain yn ffyrdd Duw; ac am y eyflawniad neu'r esgeulusdod o hyn bydd ganddo i atteb ger bron brawdle Duw! Y mae crefydd deuluaidd yn iuddiol tuag at gysur a ded- wyddwch y teulu hyd yn oed yn y byd hwn. " Duwioldeb sydd fuddiol i bob peth a chanddi addewid o'r bywyd sydd yr awrhon, ac hefyd o'r hwn a fydd." Nid yw'r gwirionedd o hyn, meddyliem, yn cael ei brofi yn fwy eglur mewn un man nag mewn teulu duwiol. Pan fo cariad Crist wedi ei ennyn ymhob calon yn y tŷ, nis gall fod yno ymryson, na llid, na chynnen, ond " cariad pur o'r cariad sy'n y nef." Y maent yn cyd-rodio'r ffordd tua Sibn, a'r naill yn gynnorth- wy ae yn annogaeth i'r llall. Os byddo ffydd y tad yn wan, daccw ffydd y fam i'w gynnorthwyo. Os byddo cariad y rhi- eni yn oeraidd, daccw gariad y plant yn eu hannog i ymes- tyn y'mlaen. Pan yn amgylchynu'r bwrdd i gyfrannogi o drugareddau eu Tad nefol, eu gofal cyntaf yw edrych i fynu atto Ef am ei fendith ar y cwbl: a'u gofal diweddaf yw talu diolchgarwch iddo. Cyn myned i orwedd y nos, wele'r allor deuluaidd yn cael ei chodi, a'r teulu ynghyd yn gorchymyn eu gilydd i ofal eu Prynwr. A phan egyr dorau'r wawr ar- nynt, wele hwynt drachefn yn ymgynnull i gyd-addoli yr Hwn a'u cadwodd yn oriau'r nos, ac i ymofyn am ras i ddi- lyn ei wasanaeth Ef. Onis gall y fath deulu a hwn edrych