Skip to main content

YR EGLWYSYDD. Rhif. 8.] AWST, 1848. [Cyfrol ii. ¥ Oírístíon. Soniwyd eisoes am wendidau'r cristion; ac oddi wrth y í'ath olwg arnom ein hunain, y mae yn naturiol i ni ofyn dau gwestiwn ; sef, pa fodd y dichon y pethau hyn fod ? A phaham y goddeíir hwynt? Gan fod Duw yn casâu pech- od, ac yn dysgu ei bobl i'w gasàu a gwaeddi am ymwared rliagddo; ac yn addaw gwrando eu gweddi, paham yr ânt rhagddynt fel hyn mor fiinderog a llwythog? Diau, pe ni amcanai Duw oruch-lywodraethu y drwg hwn er daioni idd- ynt, na chaniattcid iddo barhau. Ond trwy'r profiad hwn, pâr i ni gydnabod a theimlo yn ddwysach, halogrwydd a llygredd hollol ein naíur; ac nad oes un ran o honom yn rhydd oddi wrtbynt; pâr hefyd i'w ffordd o achub fod yn llawer mwy anwyl geimym, yr lion a ganfyddwn sydd trwy ras, a thrwy ras yn unig; ac mai yr Arglwydd Iesu Grist, sydd, ac a raid fod i ni "oll yn oll." Amlygir hefyd yn eglur yn hyn ei allu i ddwyn y'mlaen ei waith, er ein llesg- edd, temtasiynau, a'n gelynion, ac ymddengys ei nerth Ef yn ein gwendid. Siommir a chywilyddir Satan hefyd yn fwy, wrth weled terfynau wedi eu gosod i'w lid a'i ddichell- ion, y rhai ni all fyned trostynt; a bod y rhai hynny a hud- wyd ganddo, ac a ddygwyd y'mhell dau ei lywodraeth, o'r diwedd vn ffoi o'i afael. Teflir hwynt yn wir i lawr ganddo, fei Job, ond cyfodir hwynt i fynu; clwyfir hwynt, ond cânt feddyginiaeth; caiff Satan ei ewyllys i'w nithio hwynt fel gwenith, eithr llwydda gweddi ei Heiriolwr mawr i gynnal eu fíỳdd. Y'mhellach, dysgir hefyd grist'nogion, trwy y gwendidau a deimlant ynddynt eu hunain, i dosturio, rhybuddio, a chyd-ddioddef âg eraill; ac fe aìlai, nad oes unrhyw foddion