Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYSYDD. Rhif. 7.] GOEPHENHAF, 1848. [Cyfeol ii. © na cftafon aíl-öreulto íjlÉogìrìrgn! Gyrfa cldaearol dyn a gyffelybir yn y gyfrol ysprydoledig i'r gwrthddrycb.au darfodediccaf a mwyaf gwywedig canfydd- adwy i ni ar wyneb y gronen ddaearol. Cyífelybir bi i fiod- euyn y glaswelltyn, a tbebygwyf mai priodol iawn ydyw y gyfí'elybiaeth hon mewn llawer o olygiadau. Gwyddom am y blodeuyn dan sylw (adnabyddus gan lysieuwyr wrth yr enw tigridia panonia), pe'i gosodid ef ym mhlith y tyneraf flodau, ym mbell o gyrhaedd un ystorm; neu yn y sefyllfa fwyaf ffafriol iddo, na fuasai ei barhad ef ar ol y cwbl onid un diwrnod. Pa le y mae un meddwl myfyriol na edrych ar heirdd-flodau y maes gyda rhyw anwyldeb annysgrifiadwy am eu bod hwy yn bortreiadau mor gywir o natur ddarfod- edig dyn? Pan yn troi dalenau fy nghôf-lyfr, cyfarfyddaf â gwahanol bethau, pa rai a gynnwysant ëang faesydd i adfyfyriaeth, ac er nad ydyw y petbau amryliw hyn, ysgat- fydd, yn teilyngu sylw meddwl myfyriol am na ddeillia cysur oddi wrthynt; etto y mae rbyw duedd ynddynt i sirioli meddyliau prudd a chrwydredig pererin gwàn pan yn tarrio niewn estronol wlad. Oddi wrth amser plygeiniol fy mywyd y cyfyd yr biraethion anwylaf a'r adgofion mwyaf tyner. Y mae taflu cip oiwg ar amser bore fy mywyd, nid yn unig yn ddiddanol i'r meddwl, ond hefyd yn fuddiol, feddyliwyf, er nad elUr adferu'r gwerthfawr oriau a gam- dreuliwyd trwy'r ediychiad hynny. Pan y teimla dyn y golled o gamdreulio ei amser, a phan y dwys-fyfyria ar atgasrwydd, a chanlyniadau gresynus, fíbl yniarweddiad, 'fe a gwyna mewn yspryd drylliedig, gan ddywedyd, " 0 na chawn ail dreulio blwyddyn." Pe hynny ganiatteid i mi, meddai, y cyfeilüon, yr arferion, a'r pleserau a hoffais gynt, a fiieiddiwn. Yn lle canlyn ofer ddihirod, trefnwn fy achosion a chofìeidiwn ddiwydrwydd—yn lle gorwedd a hepian fel diogyn, byddwn efrydydd ymchwilgar yn troi dalenau rhyw gyfrolau a dderchafent fy meddwl i syllu ar ryw wrth