Skip to main content

YR EGLWYSYDD. Ri-iiF. 6.] MEHEFIN, 1848. [Cyfrol 11. ¥ ODrtstton. Whth glywed y cristion yn ofidus yn sòn am ddrwg pechod a gwagedd y byd, am gariad Crist, harddwch sancteiddrwydd, neu bwysfawrogrwydd tragywyddoldeb, pwy nis barnai ef yn ddiogel rhag cael eu hudo gan un brofedigaeth ? Wrth ei glywed yn aunog eraill i wyliadwriaeth, gweddi, hir-yni- aros, ac ymddarostyngiad, trwy resynnnau mor gadarn, pwy na thybiai y gallai ddiogelu ei hun ac iawn reoh ei fywyd ? Ond 0 mor aughysson âg ef ei hun yn hyn! Wedi cylbdi oddiar ei liniau yn ei ystafell y bore, gan gydnabod ei hun yn dlawd, syrthiedig, gwael, a diallu; ac yu cyfaddef ei an- nheilyngdod i gael anadlu'r awyr, a gweled goleuni'r dydd; dichon yn ystod y diwrnod, iddo gyfarfod âg amryw bethau, | y rhai a ddygant i'r golwg lygredigaethau ei galon, nes | profi mor ansicr a gwan yw'r egwyddorion goreu a'r argy- hoeddiadau dyfnaf, yn yr ijmarferiad o honynt? Ar yr olwg hon, mor wael yw dyn ! mor annhebyg yw'r cristion iddo ei hun ! Gelwir ef credadyn, o herwydd ei fod yn | profíesu cydsyniad ym mhob peth à gair ac ewylìys Duw; ond Ow! mor annheilwng yu fynych o'r enw. Pe rhoddid disgrifiad o hono allan o'r Ysgrythyr, darlunid ef fel un â'i galon yn " sychedu am Dduw," a'i bresennoldeb; â'i serch ar ei Brynwr anweledig; â'i drysor a'i galon yn y nef. Wedi caol maddeu llawer, y mae yntau yn llawn o ymysgar- oedd tosturi tuag at bawb ol amgylch; ac wedi profì twyll ei gaìon, nis meiddia ymddiried iddi mwy; eithr " byw y mae trwy ffydd Mab Duw," " yr Hwn a wnaed iddo yn gyfiawnder, doethineb, a saucteiddrwydd," ac oddi wrtho Ef y mae yn derbyn "gras am ras." Ié', teimla nad yw, hebddo Ef, ddigonol i feddwl un meddwl da o hono ei hun.