Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IEÜENÖTYD C¥Jfí?ü. Cyf. II. Rhagfyr, 1900. Rhif 24. 1—Archebion a Thaüadau i Mr. G. Griffiths, 2, Ynyslwyd street, Aberdare. 2—Gofala Mr. William John Evans, Commercial street, Aberdar am y Gerddoriaeth. 3—Pob peth arall i'r Golygydd. 4—Yn Eisieu : Hanesion byrion am bersonau, &c, a gwers er lìes oddiwrthynt. Ein Gohebwyr—Danfoned pob) ieuainc eu cynyrchion i ni mewn cân, barddoniaeth, a llenyddiaeth. Mae'r cyhoeddiad yn ei genhad- aeth yn benodol at wasanaeth gohebwyr ieuaine. BYW. (Allan o r Morthwyl trwy ganiatad). Byw'n hir yw ymgais fawr y byd, A mesur oes wrth faint ei hyd ; Byw'n ddedwydd, hyny eto gawn Yn amcan bywyd llawer iawn; Byw yn llwyddianus gaiff y ile Blaenaf gan filoedd is y ne'; Byw'n enwog ydyw amcan mawr Rhan helaeth o drigoìion ilawr; A byw'n anfarwol, dyna nod Pob marwcl,—rhyw anfarwol íod 1 Os am fyw'r oil o'r rhai'n yn un— Byw'n hir a dedwydd yn gytun, Llwyddianus, enwog, yn y byd, A byw'n anfarwol yr un pryd, Un ffordd yn nghyd i gyd a'i gwna, A dim ond un, sef byw yn dda. Watcyn Wyn.