Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Güsrrcfyd Gymru. Cyfrol I. GORPHENAF, 1899. Rhif 7. iŴt ein GoRebtoyr. 1.—Archebion a Thaliadau i Mr, G. Griffiths, 2, Ynyslwyd Street, Aberdar. 2,— Gofala Mr. Wllliam John Evans, Commercial Street, Aberdar, am v Gerdd- oriaeth. 3.—Pob peth arall i'r Gol. 4.- Yn Eisiau: Hanesion Byrion am Bersonau, &c, a gwersi er lles oddiwrthynt. îSëf* Mewn llaw—Eiddo "T. W.," Eos Wenallt, David Davies, T. Morris, " B. T.," " D. L ," ac ereill vn aros am eu tro. Gwahodd- wn yr ieuenctyd yn llenorion, beirdd, a cherddorion i ddanfon eu darnau i fewn. Condemniai gwr o oed a safie ein Misolyn, dro yn ol. Gwyddem fod gany cyfryw fisolyn ei hun ; ac wrth fivrw golwg dros rai rhifynau o hono, y geiriau a ganlyn a ddaeth i'n cof:— " Esgyrn sychion, gwel eu hamledd, Oll mewn camwedd, m irw ynt." Dowch yn mlaen, bobl ieuainc. Mae " anadl einioes ' yn Ieuenctyd Cymru. MAI BYWYD. GAN T. MAFONWY DAVIES, BLAENAFON. (Ar foreu yr 16eg o Fai, bu farw anwyl briod yr awdwr o'r darfod- edigaeth. Dyma fis ei gobaith bob blwyddyn—dyma fis angeu eleni. Uyna'r achos iddo i ganu ar y testyn uchod). Garedig Fai, sawl cardod roddaist di I obaith fy anwylyd, pan yn glaf; Sawl gwaith edrychaist yn ei gwyneb hi, Nes newid dechreu gaua 'n ddechreu haf?